Melysfwyd a wneir drwy ferwi cymysgedd o siwgr, surop megis triagl, ac yn aml menyn a'i adael i oeri ac ymgaledu yw cyflaith, cyfleth, taffi, toffi, neu ffani. Ceir dau brif fath: cyflaith wedi ei dynnu, sy'n draddodiadol yng Nghymru a'r Unol Daleithiau, a chyflaith heb ei dynnu, sef y math a geir yn Lloegr.
Melysyn tynnu yw'r cyflaith Cymreig traddodiadol. Paratoid yn y cartref gan ddefnyddio triagl du, siwgr a menyn. Berwer y cymysgedd gan roi iddo ei ansawdd arbennig, a thywallt y cymysgedd ar fwrdd llechen neu ddysgl agored. Yna iro'r dwylo â menyn a thynnu'r cyflaith yn rhaffau hirion, melyn.[1] Mae'r traddodiad o bartïon tynnu cyflaith yn parháu mewn rhannau o Gymru. Gellir cael cyflaith heb fenyn, ond gan amlaf bydd yn cynnwys ychydig o fêl neu surop i atal crisialu.[2]
Mae'n hen arferiad mewn llawer man yng ngogledd Cymru gynnal Noson Gyflaith i ddathlu'r Nadolig neu'r Flwyddyn Newydd. Bydd pobl ifainc, gan amlaf, yn ymgynnull mewn ffermdai i wneud cyflaith triog wrth aros am amser gwasanaeth y plygain.[3] Traddodiad arall oedd rhagweld pwy fyddai rhywun yn ei briodi drwy ollwng darnau o'r gyflaith i mewn i ddŵr oer a gweld pa lythyren a ffurfiai.[4]
Roedd cyflaith yn cael ei wneud mewn rhannau o dde Cymru hefyd, yn enwedig yn y cymoedd glo. Ni chysylltid ef ag unrhyw ŵyl arbennig yn y de, ond roedd yn arfer gan wragedd i'w werthu o'u cartrefi neu yn y farchnad leol.[5] Cyflaith o liw gwyn a hufen oedd taffi a ffani neu ddant. Byddai amryw o wragedd ym Morgannwg yn ei wneud yn eu cartrefi ar gyfer ei werthu. Siwgr a menyn oedd ei sylfaen, a byddid yn ei dynnu nes cael rhan ohono'n wyn a'r gweddill o liw hufen. Byddid yn blasu'r un lliw hufen ag olew mintys weithiau. Fe'i gwerthid yn stribedi deuliw o ryw chwe modfedd o hyd am geiniog yr un.[1] Ym Morgannwg ceir hefyd paradeis, sef darnau o gyflaith ar ffurf tri chornel ac wedi'u blasu â mintys, a'u gwerthu am geiniog yr owns. Hefyd yn yr ardal honno rhoddir yr enw losin tripa ar gyflaith a wnaed yn y cartref.[6] Gwnaed cyflaith o'r enw losin bwtwna gan hen wraig mewn siop fach yn Aberdâr. Byddid yn ei dynnu nes iddo droi'n wyn, ei dorri'n ddarnau ac yna addurno'r darnau â chwrlyn o gyflaith.[6]
Gelwid cyflaith Seisnig neu Brydeinig ynghynt yn daffi (Saesneg: taffy), a heddiw yn doffi (toffee). Gwneir o surop siwgr a menyn gyda chynhwysyn ychwanegol i atal crisialu, er enghraifft surop neu driagl du yn lle rhai o'r siwgr, neu asid megis sudd lemwn. Berwer i'r cam hollt feddal i wneud toffi meddal, neu'r gam hollt galed am doffi caled, gan ei gymysgu'n brin iawn neu ddim o gwbl. Arllwysir a gedewir i geulo, heb dynnu neu fel arall trin y cymysgedd. Ceir nifer fawr o ychwanegion a chyflasynnau, gan gynnwys triagl, cnau, siocled, hufen neu hufen sur, mintys, a wisgi.[7]
Melysyn tynnu yw taffi Americanaidd, yn debyg i gyflaith yng Nghymru. Gwerthir yn aml ar ffurf melysion bychain mewn papurau losin lliwgar, math o "gandis ceiniog" (penny candies). Yn ôl y rysáit sylfaenol, gwresogir cymysgedd o siwgr, dŵr a thriagl neu surop corn, ac yna'i dywallt dros lechen i oeri a'i flasu gydag olew naws. Wrth iddo oeri, tynnir a phlygir y taffi gan roi iddo ansawdd gwydn ond meddal.[8] Math poblogaidd yw taffi dŵr hallt, a brynid gan genedlaethau o Americanwyr yn y ffair ac ar lan y môr. Gwneir heb fenyn ac yn wreiddiol gyda dŵr y môr.[2]