Arwydd ddwyieithog COVID-19 yn Aberystwyth; Ebrill 2020 | |
Enghraifft o'r canlynol | cyrffiw, ystad o argyfwng, clofa, non-pharmaceutical intervention |
---|---|
Math | clofa |
Dyddiad | 2020 |
Rhan o | adwaith i bandemig COVID-19, 2019-20 |
Dechreuwyd | Ionawr 2020 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfnod Clo yw'r term a ddefnyddir yn ystod pandemig COVID-19 yng Nghymru i ddisgrifio'r cyfnodau a'r mesurau i reoli symudiadau pobl rhag lledu'r feirws.[1] Erbyn mis Ebrill 2020, roedd oddeutu hanner poblogaeth y byd mewn cyfnod clo, gyda mwy na 3,9 biliwn o bobl mewn dros 90 o wledydd neu diriogaethau o dan gais neu orchymyn i aros yn eu cartrefi gan eu llywodraeth.[2] Argymhelliad Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfnodau clo a chyrffyw yw y dylent fod yn fesurau byr dymor i ail-drefnu, ailgynnull, ailgydbwyso adnoddau, a diogelu gweithwyr iechyd sydd wedi'u llethu. Er mwyn cael cydbwysedd rhwng cyfyngiadau a bywyd arferol, dylai ymatebion hirdymor i'r pandemig gynnwys hylendid personol llym, olrhain cysylltiadau effeithiol, a hunanynysu pan yn sâl.[3]
Cyfyngiadau Symud yw'r term swyddogol a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Cyfnod Clo.[4]
Ar ddechrau pandemig COVID-19 nid oedd eglurder na chonsensws ynghylch beth ddylid ei ddefnyddio i gyfateb y gair 'lockdown' o'r Saesneg. Roedd tueddiad i ddefnyddio'r term Saesneg yn y dyddiau cynnar, hyd yn oed yn y cyfryngau safonol megis BBC Cymru, 'Lockdown llwyr' i ferch o Aberystwyth yn Ecwador (8 Ebrill)[5], a "Bywyd ar 'lockdown' yn Fietnam" (9 Ebrill)[6]. Cafwyd defnydd o Clofa hefyd, ond ni gydiodd y term hwnnw gan ei fod yn cael ei ystyried fel term mwy generic ar gyfer "lockdown" a allai ddigwydd mewn carchar neu gyd-destun gwleidyddol.
Esgorodd hyn ar drafodaeth am y term ar gyfer "lockdown", ynghyd â thermau cymharol dieithr eraill, megis "furlogh", "Beth yw 'lockdown' a 'furlough' yn Gymraeg?" ar 1 Mai.[7] Bu i'r BBC arddel bod dan gyfyngiadau, awgrymodd y prifardd, Aneirin Karadog, Y Meudwyo Mawr, ac Eifion Lloyd Jones, caethiwo.[8] Cafwyd trafodaeth ar Twitter Dafydd Trystan ar 23 Mehefin, dri mis i mewn i'r Cyfnod Clo cyntaf, am ba derm roedd pobl yn ei ddefnyddio, gan nodi diffyg consensws llafar ar derm Cymraeg.[9]
Erbyn canol mis Mehefin roedd Cyfnod Clo yn gyffredin.[10][11]
Yn ogystal â'r effaith ar yr economi a'r gwasanaethau iechyd, gwelwyd effaith ar iechyd meddwl pobl gyda nifer yn trafod yr angen am gwmni, yn enwedig pobl oedd yn byw ar eu pennau eu hunain. Un o'r bobl a siaradodd yn agored am yr unigrwydd yma oedd Elin Jones, Llywydd Senedd Cymru.[12]
Bwriad gweithredu'r Cyfnodau Clo oedd lleihau gallu'r Coronafeirws i ymledu rhwng pobl ac ar draws cymunedau. Daeth y cyfnod clo cyntaf i rym ym Mhrydain ar 23 Mawrth 2020.[13] Dadleuwyd bod hyn o leiaf wythnos yn rhy hwyr, a bod yr oedi wedi achosi rhagor o farwolaethau a dirwasgiad i'r economi na phe bai wedi'i alw wythnos ynghynt. Roedd lleihau cyfleoedd i bobl, a thrwy hynny y Coronafeirws, i gysylltu â'i gilydd yn hollbwysig er mwyn cadw'r Cyfradd Rhif R yn isel ac osgoi'r feirws rhag lledu.[14]
Ar 10 Mai 2020, cafwyd rhaniad amlwg rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig o dan Boris Johnson a'r tair senedd ddatganoledig Celtaidd: Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon (Llywodraeth Gogledd Iwerddon) wrth i San Steffan gyhoeddi eu bod am lacio rhywfaint o amodau'r Cyfnod Clo gan ganiatáu rhagor o deithio.[15]
Yn ystod y misoedd canlynol, gwelwyd mesurau'n cael eu llacio yng Nghymru ac ledled gwledydd Prydain, a arweiniodd at gynnydd yn nifer achosion y Coronafeirws.
Ar 19 Rhagfyr 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd Cyfnod Clo arall yn dechrau ar 23 Rhagfyr 2020 yng Nghymru, ar ôl cyhoeddi'n wreiddiol y byddai'n dechrau ar 28 Rhagfyr, o ganlyniad i gynnydd cyflym a difrifol yn nifer yr achosion, a hynny yn rhannol o ganlyniad i straen newydd o'r feirws a ddaeth i'r amlwg yn y misoedd blaenorol. Caniatawyd eithriad ar gyfer dydd Nadolig, lle roedd modd i ddau gartref ddod ynghyd am y diwrnod.[16]