Sefydlwyd | 1 Ebrill 2013 |
---|---|
Math | Corff a Noddir gan Lywodraeth Cymru |
Pwrpas | Gwarchod yr amgylchedd a rheoleiddio; cynnal adnoddau naturiol |
Pencadlys | Tŷ Cambria, Ffordd Casnewydd, Caerdydd |
Rhanbarth a wasanethir | Cymru |
Prif Weithredwr | Clare Pillman (Chwefror 2018-) |
Cysylltir gyda | Llywodraeth Cymru |
Gwefan | Cyfoeth Naturiol Cymru |
Sefydlwyd Cyfoeth Naturiol Cymru (Saesneg: Natural Resources Wales) sy'n gorff a gaiff ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ar 1 Ebrill 2013[1] pan unwyd y gwaith o reoli adnoddau naturiol Cymru. Mae'n dod â gwaith tri chorff a oedd yn bodoli cyn hyn at ei gilydd: Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, a'r Comisiwn Coedwigaeth a pheth gwaith a arferid ei wneud gan Lywodraeth Cymru.[2] Y Prif Weithredwr yw Clare Pillman[3] a'r Cadeirydd ers Tachwedd 2015 yw Diane McCrea, sy'n dilyn yr Athro Peter Matthews a Madeleine Havard yn ddirprwy.[4][5]
Mae'n Gorff Cyhoeddus Anadrannol.
Honnodd Llywodraeth Cymru y byddai'r corff newydd hwn arbed £158 miliwn dros gyfnod o ddeg mlynedd.[6] Un pryder a leisiwyd gan swyddogion yr adran goedwigaeth oedd y byddai eu llais yn cael ei foddio o dan y drefn newydd.[7]
Cyfoeth Naturiol Cymru yw’r corff mwyaf a noddir gan Lywodraeth Cymru; mae’n cyflogi oddeutu 1,900 o staff ledled Cymru, gyda chyllideb o £180 miliwn yn 2016.
Dr Emyr Roberts oedd prif weithredwr cyntaf y corff ac ymddeolodd yn Hydref 2017 gyda Kevin Ingram, y cyfarwyddwr cyllid yn gwneud ei waith dros dro. Penodwyd Clare Pillman fel prif weithredwr newydd cychwynnodd ar ei gwaith yn Chwefror 2018.[8]
Yr Athro Peter Matthews oedd cadeirydd cyntaf y corff [4] Penodwyd Diane McCrea fel cadeirydd newydd yn 2015 ond ymddiswyddodd ym mis Gorffennaf 2018 yn dilyn adroddiad gan yr Archwilydd Cyffredinol yn dweud bod cytundebau'r corff i werthu pren yn anghyfreithiol.[9]
Yn 2016, newidiodd ei bolisi trwyddedu adnoddau megis fideos i drwydded agored Comin Creu (CC-BY-SA).
Mae gorchwyl gwaith CNC yn cynnwys dros 40 math o orchwylion rheoli sydd wedi'u hetifeddu ganddynt. Maent yn cynnwys:[10]