Cyforgors

Defnyddir y term cyforgors am gors ar yr yr iseldir, lle mae mawnogydd wedi datblygu mewn mannau lle mae dŵr yn casglu oherwydd traeniad gwael. Ffurfir mawn, gan fod diffyg ocsigen yn arafu pydriad y defnyddiau planhigol. Bydd ymgasgliad y mawn yn codi arwyneb y gors uwchben y tir o'i chwmpas i ffurfio llun cromen.

Fel mae'r gromen yn codi, mae'r rhan ganol yn mynd yn rhy uchel i ddibynnu ar nentydd neu ddŵr yn y ddaear am wlybaniaeth, ac yn dod i ddibynnu yn hollol ar law. Gall hyn arwain at ffurfio cors asidig, hyd yn oed os nad yw'r tir ei hun yn asidig.

Esiamplau 'r math yma ar gors yng Nghymru yw Cors Fochno, Cors Caron a Mawnogydd Fenn’s, Whixall a Bettisfield. Mae'r rhain i gyd yn warchodfeydd natur bellach.