Enghraifft o: | codeiddio, system gyfreithiol |
---|---|
Math | cyfraith |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg, Lladin yr Oesoedd Canol |
Cysylltir gyda | Dyfnwal Moelmud |
Dechrau/Sefydlu | 5 g |
Olynwyd gan | Cyfraith Hywel |
Gwladwriaeth | Cymru |
Cyfraith y Cymry (neu'r Brythoniaid) a grewyd yn ystod teyrnasiaid y Brenin Dyfnwal Moelmud yw Cyfreithiau Moelmud,[1] a addaswyd yn 945 gan Hywel Dda. Nid oes tystiolaeth bendant ai person chwedlonol neu ai person hanesyddol ydoedd, ond credir fod corff o ddeddfau'n boboli cyn Hywel Dda, a'u bod yn debyg iawn mewn llawer o agweddau at Ddeddfau'r Gwyddel.
Cyfeirir at Dyfnwal yn Lladin ac yn Saesneg fel Dunvallo Molmutius.[2] Disgrifiwyd Cyfraith Moelmud (neu Gyfraith Cymru) tua'r 1130au gan Sieffre o Fynwy yn ei Historia Regum Britanniae.[3] Ychydig a wyddys am y cyfreithiau hyn; mae'r cyfreithiau Cymreig sydd wedi goroesi'n nodi dim ond bod cyfreithiau Dyfnwal wedi cael eu disodli i raddau helaeth gan y codau newydd a sefydlwyd gan Hywel Da.[4] Dywedwyd hefyd i Hywel gadw unedau mesur Cymreig.
Ymddengys Dyfnwal Moelmud mewn achau o'r 10g o Harleian MS. 3859 (Cymmrodor, ix. 174) lle dywedir ei fod yn ŵyr i Coel Odebog. Dywed Sieffre o Fynwy ei fod yn fab i Cloten, brenin Cernyw, a dywed fod y cyfreithiau a luniwyd ganddo ef yn dal mewn defnydd ymhlith y Saeson hefyd.[5]
Roedd Cyfraith Cymru yn fath o gyfraith Geltaidd, gyda llawer o nodweddion tebyg rhyngddi hi a Chyfraith Brehon yr Iwerddon, ac roedd elfennau tebyg ag arferion a therminoleg y Brythoniaid oedd yn byw yn Ystrad Clud.[6] Cafodd Cyfraith Cymru ei throsglwyddo ar lafar ar draws y cenedlaethau gan y beirdd a phobl ddysgedig yn y gyfraith. Ni chafodd ei threfnu a’i strwythuro tan deyrnasiad Hywel Dda ganol y 10g.
Bu Iolo Morganwg wrthi'n bocha gyda'r ffeithiau; ymddangosodd gwybodaeth a ystyrir heddiw'n ffug am Ddyfnawl.