Y gylchred nitrogen yw'r gylched bioddaeargemegol pan gaiff y nwy nitrogen ei drawsnewid i wahanol ffurfiau sy'n ddefnyddiol mewn prosesau cemegol. Gall y trawsnewid hwn ddigwydd mewn prosesau ffisegol a biolegol.
Mae'r nitradau yn cael eu ffurfio gan facteria sy'n sefydlogi nitrogen. Mae'r bacteria yma'n newid y nwy nitrogen yn nitradau.
Mae nitradau'n bodoli'n naturiol mewn pridd. Caiff y nitradau yma eu hamsugno, ac yno'u defnyddio i wneud proteinau. Os yw anifail yn bwydo ar blanhigion, mae'r proteinau'n rhoi bwyd i'r anifail. Bydd y proteinau yno'n pasio ar hyd y gadwynau bwyd.