UEFA | |
---|---|
[[File:![]() | |
Sefydlwyd | 1923 |
Pencadlys | Sofia |
Aelod cywllt o FIFA | 1924 |
Aelod cywllt o UEFA | 1954 |
Llywydd | Borislav Mihaylov |
Gwefan | bfunion.bg/ |
Mae Cymdeithas Bêl-droed Bwlgaria, neu, o'i roi ei gyfieithiad cywir, Undeb Pêl-droed Bwlgaria, (Bwlgareg: Български футболен съюз, yn yr wyddor Ladin: Bǎlgarski futbolen sǎyuz; BFS)[2] yn gymdeithas bêl-droed sydd wedi'i lleoli ym Mwlgaria ac yn aelod o UEFA. Mae'n trefnu cynghrair pêl-droed, Parva Liga Bwlgaria, ac yn cynnwys ei dîm pêl-droed cenedlaethol Bwlgaria mewn cystadlaethau a awdurdodir gan UEFA a FIFA.
Cafodd yr endid cyfreithiol y mae'n honni ei fod yn disgyn ohono ei sefydlu ym 1923 fel adran bêl-droed Ffederasiwn Chwaraeon Cenedlaethol Bwlgaria, a oedd yn bodoli hyd at oresgyniad y Sofietiaid ym 1944. Roedd y corff llywodraethu pêl-droed bryd hynny yn cael ei adnabod fel y Pwyllgor Pêl-droed Canolog tan 1948, yr Adran Weriniaethol ar gyfer Pêl-droed o 1948 hyd 1962 a Ffederasiwn Pêl-droed Bwlgaria o 1962 hyd 1985. Ar 27 Mehefin 1985, ailenwyd y sefydliad yn Undeb Pêl-droed Bwlgaria, yr enw sydd ganddo heddiw.
Mae tîm cenedlaethol y dynion wedi cymhwyso i chwarae yn gemau ffeinals Euros ddwy waith, 1996 a 2004.
Mae pencadlys yr Undeb yn y brifddinas, Sofia.[3] Mae gan y BFS 50,639 o drwyddedau pêl-droediwr a 423 o glybiau cofrestredig (data o fis Mai 2004).
Mae’r Undeb yn trefnu’r cystadlaethau canlynol:
Mae Undeb Pêl-droed Bwlgaria hefyd yn trefnu timau pêl-droed cenedlaethol sy'n cynrychioli Bwlgaria ar bob lefel oedran: