Enghraifft o: | sefydliad di-elw |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1998 |
Pencadlys | San Francisco |
Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
Rhanbarth | San Francisco |
Gwefan | https://aida-americas.org |
Mae'r Cymdeithas Ryng-Americanaidd dros Amddiffyn yr Amgylchedd (Sbaeneg: Asociacion Interamericana para la Defensa del Ambiente) (AIDA) yn sefydliad cyfreithiol, amgylcheddol, ryngwladol dielw a sefydlwyd ym 1996 gan bum sefydliad amgylcheddol yn America gan gynnwys Earthjustice.
Mae pencadlys AIDA yn San Francisco, California ac mae'r sefydliad yn gweithio'n rhyngwladol gyda phartneriaid mewn llawer o wahanol wledydd gan gynnwys yr Ariannin, Canada, Chile, Colombia, Costa Rica, Ecwador, Mecsico, a Pheriw.
Mae AIDA yn gweithio'n bennaf i wella a diogelu iechyd dynol a'r amgylchedd. Mae gwaith mwyaf nodedig AIDA wedi bod yn La Oroya, Periw, lle maent wedi brwydro yn erbyn gwenwyno pobl leol gyda metelau trwm ayb. Mae AIDA hefyd wedi gweithio'n galed i amddiffyn y crwban môr lledrgefn yn Costa Rica trwy bartneriaeth â Cedarena.[1]
Mae AIDA yn partneru â grwpiau lleol i sefydlu timau rhyngwladol o gyfreithwyr a gwyddonwyr i fynd i'r afael ag amrywiaeth o argyfyngau amgylcheddol a hawliau dynol - gan gynnwys dirywiad adnoddau dŵr croyw, tocsinau cynyddol, newid hinsawdd, a dirywiad bioamrywiaeth bregus.
Mae AIDA'n gweithio ar brosiectau mewn cydweithrediad â grwpiau amgylcheddol a hawliau dynol, gan gynnwys y sefydliadau canlynol: