Cymdeithas gyfeillgar

Math o gymdeithas gydfuddiannol yw cymdeithas gyfeillgar sydd ag aelodau'n cyfrannu at gronfa er lles yr aelodau sydd mewn angen.[1] Yn hanesyddol pwrpas cymdeithas cyfeillgar oedd i ddarparu yswiriant, a phwrpas cymdeithas adeiladu oedd i helpu ei haelodau brynu tai, ond heddiw nid oes gwahaniaeth rhyngddynt.[2] Enghraifft o gymdeithas gyfeillgar oedd Urdd Ddyngarol y Gwir Iforiaid yng Nghymru.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. (Saesneg) Particular bodies: friendly societies: meaning of. Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi. Adalwyd ar 29 Hydref 2012.
  2. (Saesneg) friendly society. Financial Times Lexicon. Financial Times. Adalwyd ar 29 Hydref 2012.
Eginyn erthygl sydd uchod am sefydliad neu astudiaethau sefydliadau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.