Gwlad | Cymru (11 tîm) |
---|---|
Clwb/clybiau eraill o | Lloegr (1 tîm) |
Cydffederasiwn | UEFA |
Sefydlwyd | 1992 |
Nifer o dimau | 12 |
Lefel ar byramid | 1 |
Disgyn i | Cynghrair Undebol Cynghrair Cymru (Y De) |
Cwpanau | Cwpan Cymru Cwpan Cynghrair Cymru |
Cwpanau rhyngwladol | Cynghrair y Pencampwyr UEFA Cynghrair Europa UEFA Cyngres Europa |
Pencampwyr Presennol | Cei Conna (2019-20) |
Mwyaf o bencampwriaethau | Y Seintiau Newydd (13 pencampwriaeth) |
Partner teledu | S4C |
Gwefan | wpl.cymru |
Cymru Premier[1][2] weithiau, Uwch Gynghrair Cymru yw'r unig gynghrair bêl-droed cenedlaethol yng Nghymru. Fe'i sefydlwyd ym 1992 a hyd nes 2002 fe'i hadnabuwyd fel Cynghrair Cymru (Saesneg: League of Wales). Am resymau nawdd fe'i hadnabyddir fel Uwch Gynghrair Cymru JD. Ailfrandwyd y gynghrair yn Cymru Premier ar gyfer tymor 2019–20.[3] Yn 2009 sefydlwyd Cynghrair Merched Cymru a ddaeth maes o law yn Uwch Gynghrair Merched Cymru a newidiwyd ei henw yn swyddogol i Adran Premier ar gyfer tymor 2021-22 gan hepgor y gair 'merched' er mwyn codi statws a normaleiddio pêl-droed merched.[4]
Isod mae rhestr o glybiau fydd yn chwarae yn nhymor 2024–25.
Er sefydlu Cymdeithas Bêl-droed Cymru ym 1876, nid oedd CBDC erioed wedi sefydlu cynghrair cenedlaethol i'r clybiau oedd yn aelodau. Yn hanesyddol, mae timau gorau Cymru yn cystadlu ym mhyramid pêl-droed Lloegr gydag Athletic Aberdâr, Abertawe, Caerdydd, Casnewydd, Merthyr a Wrecsam i gyd wedi bod yn aelodau o Gynghrair Bêl-droed Lloegr.
Ym mis Hydref 1991 gwnaeth Alun Evans, Ysgrifennydd Cyffredinol CBDC ar y pryd, benderfyniad i sefydlu cynghrair genedlaethol gan ei fod yn credu bod bygythiad i fodolaeth Cymru fel gwlad annibynnol o fewn FIFA. Mae gan CBDC ynghyd â Chymdeithas Bêl-droed Lloegr, Cymdeithas Bêl-droed Yr Alban a Chymdeithas Bêl-droed Iwerddon sedd barhaol ar y Bwrdd Cymdeithas Bêl-droed Rhyngwladol yn ogystal ag is-lywyddiaeth FIFA parhaol. Credir fod nifer o wledydd yn gweld hyn yn annheg ac yn chwilio am esgus i uno pedair gwlad Ynysoedd Prydain fel un tîm ar gyfer y Deyrnas Unedig. Cafwyd cwynion gan wledydd cydnabyddedig, megis yn Affrica, na ddyliau fod 4 tîm cenedlaethol i Gymru ac yn hytrach un dîm i'r Deyrnas Unedig, roedd sefydlu'r Gynghrair yn holl bwysig i gadarnhau hunaniaeth Cymru fel gwlad.[5]
Roedd y penderfyniad i sefydlu Cynghrair Cymru yn un dadleuol ac amhoblogaidd gyda'r clybiau oedd eisoes yn chwarae ym mhyramid Lloegr. Roedd wyth clwb: Bae Colwyn, Bangor, Caernarfon, Casnewydd, C.P.D. Tref Merthyr, Y Barri, Y Drenewydd ac Y Rhyl, neu'r "Irate Eight" fel a'u gelwir gan y wasg Seisnig, yn bygwth mynd â CBDC i lys am yr hawl i aros yn is-gynghreiriau Lloegr.[6]
Ond cyn y tymor agoriadol, penderfynodd Bangor, Y Drenewydd a'r Rhyl ymuno yn y gynghrair newydd ond yn anffodus i'r Rhyl daeth eu cais yn rhy hwyr a bu rhaid iddyn nhw chwarae yn ail adran y pyramid Cymreig. Oherwydd gwaharddiadau gan CBDC bu rhaid i'r pum clwb arall chwarae eu gemau cartref dros y ffin yn Lloegr. Ond wedi tymor yn chwarae yng Nghaerwrangon penderfynodd Y Barri symud yn ôl i ymuno â'r pyramid Cymreig.
Llwyddodd y pedwar clwb alltud i sicrhau buddugoliaeth yn yr uchel Lys ym 1995 oedd yn caniatáu iddyn nhw ddychwelyd i Gymru i chwarae eu gemau cartref wrth barhau i chwarae yn y pyramid Seisnig; er y fuddugoliaeth yma penderfynodd Caernarfon ymuno â phyramid Cymru ac ym mis Ebrill 2019 penderfynodd C.P.D. Bae Colwyn eu bod am ddychwelyd i chwarae yn rhan o byramid Cymru[7].
Mae Casnewydd a Merthyr yn parhau i chwarae yn system bêl-droed Lloegr.
Tymor | Pencampwyr |
---|---|
1992–1993 | Cwmbrân (1) |
1993–1994 | Bangor (1) |
1994–1995 | Bangor (2) |
1995–1996 | Y Barri (1) |
1996–1997 | Y Barri (2) |
1997–1998 | Y Barri (3) |
1998–1999 | Y Barri (4) |
1999–2000 | Total Network Solutions (1) |
2000–2001 | Y Barri (5) |
2001–2002 | Y Barri (6) |
2002–2003 | Y Barri (7) |
2003–2004 | Y Rhyl (1) |
2004–2005 | Total Network Solutions (2) |
2005–2006 | Total Network Solutions (3) |
2006–2007 | Y Seintiau Newydd (4) |
2007–2008 | Llanelli (1) |
2008–2009 | Y Rhyl (2) |
2009–2010 | Y Seintiau Newydd (5) |
2010-2011 | Bangor (3) |
2011-2012 | Y Seintiau Newydd (6) |
2012-2013 | Y Seintiau Newydd (7) |
2013-2014 | Y Seintiau Newydd (8) |
2014-2015 | Y Seintiau Newydd (9) |
2015-2016 | Y Seintiau Newydd (10) |
2016-2017 | Y Seintiau Newydd (11) |
2017-2018 | Y Seintiau Newydd (12) |
2018-2019 | Y Seintiau Newydd (13) |
2019-2020 | Cei Conna (1) |
Mae clybiau yn sicrhau dyrchafiad i Uwch Gynghrair Cymru o Bencampwriaeth Cymru sydd wedi ei rhannu'n ddau gynghrair rhanbarthol; Cynghrair Cymru Gogledd a Chynghrair Cymru y De. Er mwyn sicrhau dyrchafiad mae'n rhaid i glwb sicrhau Trwydded Ddomestig UEFA a gorffen y tymor yn bencampwyr un y Bencampwriaeth, neu orffen yn ail os nad yw'r pencampwyr yn cael eu hystyried am ddyrchafiad.
Ar ddiwedd tymor 2009-10 cwtogwyd Uwch Gynghrair Cymru o 18 clwb i 12 clwb. Ers hynny mae pob clwb yn y gynghrair yn wynebu pob clwb arall yn y gynghrair ddwywaith; unwaith gartref ac unwaith oddi cartref yn rhan agoriadol y tymor. Wedi'r gemau yma orffen, mae Uwch Gynghrair Cymru yn rhannu'n ddwy gyda'r chwe chlwb uchaf yn wynebu ei gilydd ddwywaith; unwaith gartref ac unwaith oddi cartref, ac yn cystadlu am y bencampwriaeth, tra bo'r chwech isaf yn wynebu ei gilydd ddwywaith; unwaith gartref ac unwaith oddi cartref, ac yn brwydro i osgoi cwympo allan o'r Uwch Gynghrair
Bu trafodaeth bron ers sefydlu'r Gynghrair a ddylid symud tymor y lîg i chwaerae dros fisoedd yr haf (hynny yw, dechrau yn y gwanwyn a gorffen yn yr hydref) yn hytrach na'r tymor traddodiadol o ddechrau ym mis Awst neu Fedi a gorffen oddeutu mis Mai. Cododd y drafodaeth ei phen eto yn 2020 yn dilyn buddugoliaeth ysgubol NSÍ Runavík o Ynysoedd Ffaröe o 5-1 mewn cymal un gêm yng Nghynghrair Europa UEFA yn erbyn y Barri ym mis Awst a'r cwestiwn a ofynwyd ar safon pêl-droed yn Uwch Gynghrair Cymru. Galwyd y colliant yn "embaras" i'r tîm o Gymru a bu geiriau cryfion ar y cyfryngau cymdeithasol. Mewn cyfweliad hir a dwfn ar raglen Sgorio a ddarlledwyd ar Facebook derbyniodd y rheolwr, Kavin Chesterfield, yr holl feirniadaeth ond cododd hefyd y cwestiwn a ddylai Cymru Premier symud ei thymor chwarae i chware yn yr haf yn hytrach na thros y gaeaf er mwyn rhoi mwy o gyfle ymarfer a ffitrwydd i'r chwarewyr Cymreig.[8]
Mae pencampwyr Uwch Gynghrair Cymru yn cael eu henwebu i gynrychioli Cymru yn rowndiau rhagbrofol Nghynghrair y Pencampwyr UEFA. Mae'r tîm sy'n gorffen yn yr ail safle, ynghyd â'r tîm sy'n cipio Cwpan Cymru yn cael eu henwebu i gynrychioli Cymru yng Nghynghrair Europa ac mae un lle yng Nghynghrair Europa ar gael i enillwyr y gemau ail gyfle Ewropeaidd.
Os yw'r tîm sydd yn ennill Cwpan Cymru hefyd yn ennill Uwch Gynghrair yna mae'r tîm sydd yn colli yn rownd derfynol Cwpan Cymru yn cael eu henwebu i chwarae yng Nghynghrair Europa, os mae'r tîm sydd yn ennill Cwpan Cymru yn gorffen yn ail yn yr Uwch Gynghrair, ac o'r herwydd wedi sicrhau eu lle yng Nghynghrair Europa, yna bydd y tîm sydd yn gorffen yn y trydydd safle yn Uwch Gynghrair Cymru yn cael eu henwebu i chwarae yng Nghynghrair Europa.
Ers tymor 2010/11 mae gemau ail gyfle Ewropeaidd yn digwydd ar ddiwedd y tymor arferol. Mae'r pum clwb sydd wedi gorffen uchaf yn yr Uwch Gynghrair ond sydd heb sicrhau lle yn un o gystadlaethau UEFA trwy orffen yn gyntaf, yn ail neu trwy ennill Cwpan Cymru yn cystadlu am le yng Nghynghrair Europa.
Bydd y pedwerydd detholyn yn chwarae'r pumed detholyn ar eu tomen eu hunain, gyda'r buddugwyr yn teithio i wynebu'r prif ddetholion mewn gêm gynderfynol. Bydd yr ail ddetholion yn herio'r trydydd detholiad yn y gêm gynderfynol arall gyda'r ddau dîm buddugol yn cwrdd mewn rownd derfynol er mwyn sicrhau pwy sy'n cael y lle olaf yn Ewrop.
BBC Cymru oedd yn berchen hawliau teledu a radio Uwch Gynghrair Cymru ers tymor cyntaf y gynghrair ym 1992 hyd at ddiwedd tymor 2008. Roedd uchafbwyntiau byr gemau'r dydd i'w gweld ar Wales on Saturday ar brynhawn Sadwrn ac ar Gôl (Cynhyrchiad BBC ar gyfer S4C) ar brynhawn Sul hyd at ddiwedd tymor 2004. Yn nhymor 2004 dechreuodd BBC Cymru gynhyrchu rhaglen Y Clwb Pêl-droed ar gyfer S4C yn dangos uchafbwyntiau gemau Uwch Gynghrair Cymru.
Yn 2004/05 llwyddodd S4C i sicrhau hawliau Uwch Gynghrair Cymru gyda rhaglen Sgorio yn cymryd slot Y Clwb Pêl-droed i ddangos uchafbwyntiau ar nos Sadwrn yn ogystal â dangos gemau Cymru fel rhan o arlwy pêl-droed cyfandirol rhaglen Sgorio ar nos Lun. Yn 2010/11 penderfynodd S4C ddarlledu gêm fyw o Uwch Gynghrair Cymru ar brynhawn Sadwrn yn hytrach na rhaglen o uchafbwyntiau.
BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales sydd â'r hawliau darlledu radio ar gyfer gemau Uwch Gynghrair Cymru.
Dyma restr o noddwyr Uwch Gynghrair Cymru ers sefydlu'r gynghrair:
Uwch Gynghrair Cymru, 2021–2022 | ||
---|---|---|
Aberystwyth |
Caernarfon |
Cei Connah |
Derwyddon Cefn |
Hwlffordd |
Met Caerdydd | |
|published=
ignored (help)
|url=
(help); |access-date=
requires |url=
(help)
|