Cymru Ymlaen

Cymru Ymlaen
Logo Cymru Ymlaen
Arweinydd John Marek
Sefydlwyd 8 Tachwedd, 2003;
Diddymu: 2010
Pencadlys Dim (wedi diddymu)
Ideoleg Wleidyddol Sosialaeth, Rhyngwladoliaeth Gymreig
Safbwynt Gwleidyddol Chwith
Tadogaeth Ryngwladol dim
Tadogaeth Ewropeaidd dim
Grŵp Senedd Ewrop dim
Lliwiau Coch a Gwyn
Gwefan Archif
Gwelwch hefyd Gwleidyddiaeth y DU

Blaid wleidyddol yng Nghymru oedd Cymru Ymlaen. Esblygodd o Blaid Annibynnol John Marek, a sefydlwyd gan y cyn-aelod Llafur Wrecsam yn y Cynulliad.

Ar 8 Tachwedd 2003 ailenwyd y blaid yn Cymru Ymlaen. Roeddynt yn arddel polisïau sosialaidd yng Nghymru fel dewis amgen i'r Blaid Lafur, a oedd yn cael ei weld wedi pellhau oddi wrth sosialaeth.

Ymunodd cyn-aelod Llafur o'r Cynulliad a chyn- ysgrifennydd gwladol Cymru, Ron Davies, â'r blaid ond collodd ei ernes pan ymladdodd Etholiad Ewropeaidd 2004 ar ran y blaid.

Gadawodd nifer o aelodau y blaid yn ystod haf 2005, gan gynnwys y cynghorydd Dave Bithell a'r ysgrifennydd cyffredinol, oherwydd eu bod yn teimlo nad oedd y blaid yn ddigon radical. Diddymwyd y blaid yn 2010.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]