Cynan Meiriadog | |
---|---|
Ganwyd | 305 |
Bu farw | 395, 421, 392 |
Galwedigaeth | teyrn, arweinydd milwrol |
Tad | Eudaf Hen |
Priod | Ursula, Darerca |
Plant | Erbin Mawr, Branwaladr, Gadeon |
Perthnasau | Eudaf Hen, Dionotus |
Un o arweinwyr yr ymfudwyr Brythonig i Lydaw oedd Cynan Meiriadog (Llydaweg: Konan Meriadeg) (bu farw tua 426). Nid oes sicrwydd a oedd yn gymeriad hanesyddol ai peidio. Dywedir ei fod yn fab i Eudaf Hen ac yn frawd i Elen Luyddog.
Mewn rhai ffynonellau Cymreig (er enghraifft Breuddwyd Macsen Wledig ac yng ngwaith Sieffre o Fynwy), roedd Cynan Meiriadog yn gefnder trwy briodas i Macsen Wledig ac yn nai i Octavius. Pan adawodd Macsen am Rufain, gadawodd lywodraeth Llydaw i ofal Cynan a'i filwyr Cymreig.
Mae Cynan yn ymddangos yn stori'r Santes Ursula fel ei darpar ŵr. Dywedir bod Ursula yn dywysoges o deyrnas Dumnonia (Dyfnaint). Ar gais ei thad, hwyliodd am Lydaw i briodi Cynan Meiriadog, gyda 11,000 o wyryfon fel gweinyddesau. Gyrrodd storm wyrthiol hwy'r holl ffordd i draethau Gâl mewn diwrnod, a phenderfynodd Ursula fynd ar bererindod. Merthyrwyd hwy gan yr Hyniaid yn nias Cwlen yn yr Almaen. Dywedir i hyn ddigwydd tua 383.
Cynan yw sylfaenydd traddodiadol Llinach Rohan yn Llydaw.
Yn y traddodiad Cymraeg, datblygodd gymeriad Cynan Meiriadog fel un o'r arweinwyr a uniaethid â'r Mab Darogan, gan amlaf mewn cyplysiad â Chadwaladr. Cyfeirir ato gyda Chadwaladr yn arwain y Cymry a'u cynghreiriaid Celtaidd i fuddugoliaeth ar y Saeson yn y gerdd ddarogan Armes Prydein (tua chanol y 10g) ac mae'n ffigwr amlwg yn y canu darogan canoloesol diweddarach hefyd.