Cynffig

Cynffig
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCorneli Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.5153°N 3.7272°W Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruSarah Murphy (Llafur)
AS/au y DUJamie Wallis (Ceidwadwyr)
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Pentref yng nghymuned Corneli, ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Cymru, yw Cynffig[1][2] (Seisnigiad: Kenfig). Hyd at 1832 roedd yn fwrdeistref. Saif yn yr ardal a adwaenid fel Tir Iarll.

Dynodwyd Twyni Cynffig a'r llyn yn Warchodfa Natur Genedlaethol ac yn Ardal Gadwraeth Arbennig; ceir nifer o blanhigion prin yn y twyni ac mae'r llyn yn lle poblogaidd i wylio adar. Ceir adfeilion Castell Cynffig yma hefyd, yntau wedi ei gladdu gan y tywod.

Gerllaw, mae Y Sger, cartef Elizabeth Williams (Y Ferch o'r Sger) yn y 18g.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Sarah Murphy (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Jamie Wallis (Ceidwadwyr).[4]

Ceir olion yn yr ardal o oes yr Efydd, ac roedd yma dref yn y Canol Oesoedd sydd yn awr wedi ei gorchuddio gan dywod Twyni Cynffig. Adeiladwyd y pentref presennol ymhellach o'r môr.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2023-03-30 yn y Peiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 1 Gorffennaf 2023
  2. British Place Names; adalwyd 1 Gorffennaf 2023
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU


Eginyn erthygl sydd uchod am fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato