Cyngen ap Cadell | |
---|---|
Ganwyd | c. 778 ![]() |
Bu farw | c. 854 ![]() Rhufain ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines ![]() |
Tad | Cadell Powys ![]() |
Priod | Tutglud ach Brychan ![]() |
Plant | Elisedd ap Cyngen, Gruffydd ap Cyngen ![]() |
Llinach | Teyrnas Powys ![]() |
Roedd Cyngen ap Cadell (bu farw 855) yn frenin Powys.
Roedd Cyngen o linach Brochwel Ysgithrog ac ar ôl teyrnasiad maith fel brenin Powys aeth ar bererindod i Rufain a bu farw yno yn 855. Credir mai ef oedd y cyntaf o frenhinoedd Cymru i ymweld â Rhufain ers i'r rhan Gymreig o'r Eglwys Geltaidd gytuno i gydymffurfio ag Eglwys Rhufain a'r Pab ynglŷn â dyddiad y Pasg.
Cododd Cyngen golofn er côf am ei daid Elisedd ap Gwylog sydd i'w gweld yn agos at abaty diweddarach Glyn y Groes. Adnabyddir y golofn fel 'Croes Eliseg' (yn hytrach nag Elisedd) oherwydd camgymeriad gan y sawl oedd yn cerfio'r arysgrif.
Cyngen oedd yr olaf o linach brenhinoedd gwreiddiol Powys. Roedd ganddo dri mab, on pan fu farw cipiwyd Powys gan Rhodri Mawr, brenin Gwynedd oedd yn ei hawlio gan ei fod yn fab i Nest, chwaer Cyngen.