Cynghrair bêl-droed ar gyfer timau o hen sir Gwynedd yw Cynghrair Gwynedd. Mae'r gynghrair yn gyfystur â phumed lefel pyramid bêl-droed Cymru ac yn cael ei rhedeg gan Gymdeithas Bêl-droed Arfordir y Gogledd. Mae Cynghrair Gwynedd yn un o ddwy gynghrair sy'n bwydo Cynghrair Undebol y Gogledd ond ers diddymiad Cynghrair Caernarfon a'r Cylch a Chynghrair Dyffryn Conwy, Cynghrair Ynys Môn yw'r unig gynghrair sy'n bwydo Cynghrair Gwynedd.
Ffurfiwyd y gynghrair ym 1983 er mwyn pontio'r bwlch rhwng cynghreiriau lleol Ynys Môn, Caernarfon a'r cylch a Dyffryn Conwy a chynghrair Chynghrair Cymru (Y Gogledd). Cafodd Amaturiaid Llandudno, Benllech a'r Cylch, Bethesda, Conwy, Llanfairpwll, Porthmadog, Teigrod Porthaethwy ac Y Felinheli eu hethol yn aelodau cyntaf y gynghrair newydd, ond tynnodd Porthmadog yn ôl cyn dechrau'r tymor gyda Prifysgol Bangor yn cymryd eu lle[1].
Y Felinheli oedd y pencampwyr cyntaf gan ennill y gynghrair ar wahanaiaeth goliau gyda Llanfairpwll yn ail[2].
Cafwyd problemau denu timau i ymaelodi â'r Gynghrair yn yr ail dymor wedi i Teigrod Porthaethwy dynnu yn ôl oherwydd problemau ariannol ac wedi i'r Felinheli a Llanfairpwll ymaelodi â chynghrair newydd Cynghrair Undebol Arfordir y Gogledd. Penderfynnodd Prifysgol Bangor, Bethesda a Chonwy ymuno â'r Gynghrair Undebol hefyd ar ôl sylweddoli nad oedd digon o glybiau am ymuno â Chynghrair Gwynedd ar gyfer 1984-85, ond cafwyd chwaraewyd gemau rhwng y pum tîm er mwyn cadw enw'r gynghrair yn fyw[1].
Wedi seibiant o flwyddyn, atgyfodwyd y Gynghrair ar gyfer tymor 1986-87 gyda chlybiau Conwy, Coleg Normal, Harlech, Locomotive Llanberis, Llanerchymedd, Llanfairpwll, Llanrug, Machno a Phrifysgol Bangor[3].
Tymor | Pencampwyr | Tymor | Pencampwyr | Tymor | Pencampwyr | Tymor | Pencampwyr | ||
1983-84 | Y Felinheli | 1993-94 | Glantraeth | 2003-04 | Llanrwst | 2013-14 | Llanerchymedd | ||
1984-85 | Bethesda | 1994-95 | Ail dîm Porthmadog | 2004-05 | Ail dîm Porthmadog | 2014-15 | Llanllyfni | ||
1985-86 | Dim cystadleuaeth | 1995-96 | Ail dîm Conwy | 2005-06 | Pwllheli | ||||
1986-87 | Locomotive Llanberis | 1996-97 | Hotspur Caergybi | 2006-07 | Bermo a Dyffryn | ||||
1987-88 | Dyffryn Nantlle | 1997-98 | Amlwch | 2007-08 | Llanllyfni | ||||
1988-89 | Llangefni | 1998-99 | Glan Conwy | 2008-09 | Amaturiaid Blaenau Ffestiniog | ||||
1989-90 | Llangefni | 1999-2000 | Bethesda | 2009-10 | C.P.D Gwalchmai | ||||
1990-91 | Llanrug | 2000-01 | Y Felinheli | 2010-11 | Bro Goronwy | ||||
1991-92 | Nefyn | 2001-02 | Bodedern | 2011-12 | Penrhyndeudraeth | ||||
1992-93 | Tref Caergybi | 2002-03 | Llanrug | 2012-13 | Bae Trearddur |
|published=
ignored (help)[dolen farw]
|published=
ignored (help)
|published=
ignored (help)