Clymblaid filwrol-wleidyddol o wahanol fudiadau Affganaidd yn ymladd yn erbyn y Taleban yw Cynghrair y Gogledd neu'r Ffrynt Islamig Unedig er Gwaredigaeth Affganistan.
Cafodd ei gefnogi gan Rwsia ac Iran cyn ymosodiadau 11 Medi 2001, a derbynnodd mwy o gefnogaeth gan wledydd y Gorllewin (yn enwedig yr Unol Daleithiau) a mudiadau rhyngwladol megis NATO a'r CU wedi'r digwyddiad.
Arweiniwyd y Cynghrair gan Ahmad Shah Massoud cyn iddo gael ei lofruddio gan Al-Qaeda ddyddiau cyn 9/11.[1]