Cyngor Prydain-Iwerddon

Cyngor Prydain-Iwerddon
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu2 Rhagfyr 1999 Edit this on Wikidata
PencadlysCaeredin Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.britishirishcouncil.org Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cafodd Cyngor Prydain-Iwerddon ei sefydlu yn 1998 dan Gytundeb Gwener y Groglith. Aelodau'r Cyngor yw Prif Weinidog Prydain Fawr, Prif Weinidog a Dirprwy Cynulliad Gogledd Iwerddon, Prif Weinidog Gweriniaeth Iwerddon, Prif Weinidog Llywodraeth yr Alban, Prif Weinidog Cynulliad Cymru, Prif Weinidog Ynys Manaw, Prif Weinidog Jersey, a Phrif Weinidog Ynys y Garn.

Cyfarfod 16 Gorffennaf 2007

[golygu | golygu cod]

Dyma'r cyfarfod cyntaf ers pum mlynedd yn dilyn ailsefydlu Gweithgor Gogledd Iwerddon. Cynhaliwyd y cyfarfod ar wahoddiad Ian Paisley, Prif Weinidog Cynulliad Gogledd Iwerddon a'i ddirprwy Martin McGuinness yn y Stormont, Belfast, Gogledd Iwerddon. Fe'i mynychwyd gan Gordon Brown Prif Weinidog Prydain, Prif Weinidog Gweriniaeth Iwerddon, Bertie Ahern, Prif Weinidog Llywodraeth yr Alban, Alex Salmond, Ieuan Wyn Jones yn dirprwyo ar ran Rhodri Morgan yng nghwyneb ei salwch, Prif Weinidog Ynys Manaw, Tony Brown, Prif Weinidog Ynys Jersey, Frank Walker a Dirprwy Brif Weinidog Ynys Guernsey, Stuart Falla.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]