Cystadleuaeth Cân Eurovision 1977 | |
---|---|
Dyddiad(au) | |
Dyddiad | 7 Mai 1977 |
Cynhyrchiad | |
Lleoliad | Wembley Conference Centre, Llundain, Y Deyrnas Unedig |
Cyflwynyddion | Angela Rippon |
Arweinydd | Ronnie Hazlehurst |
Darlledwr | British Broadcasting Corporation (BBC) |
Cyfarwyddwyd gan | Stewart Morris |
Cystadleuwyr | |
Nifer y gwledydd | 18 |
Dangosiad cyntaf | Dim |
Dychweliadau | ![]() |
Tynnu'n ôl | ![]() |
Canlyniadau | |
System pleidleisio | Mae beirniaid proffesiynol o bob wlad yn rhoi 12, 10, 8-1 pwynt at eu deg hoff gân |
Cân fuddugol | ![]() "L'oiseau et l'enfant" |
Cystadleuaeth Cân Eurovision 1977 oedd 22ain Cystadleuaeth Cân Eurovision blynyddol. Cynhaliwyd y gystadleuaeth yn Llundain ar ôl llwyddiant Brotherhood of Man ym 1976 gyda'r cân "Save Your Kisses For Me". Roedd y gystadleuaeth hon y gyntaf i fod ym mis Mai ers y gystadleuaeth gyntaf ym 1956. Cyflwynydd y sioe oedd Angela Rippon.
Daeth 18 wlad i'r gystadleuaeth; dychwelodd Sweden ar ôl absenoldeb yn y gystadleuaeth flaenorol, a ni chystadlodd Iwgoslafia. Roedd Tiwnisia wedi bwriadu cystadlu, ond wedi tynnu allan.
Enillodd Ffrainc gyda'r cân "L'oiseau et l'enfant" ("Yr aderyn a'r plentyn"), perfformiwyd gan Marie Myriam, ysgrifennwyd gan Joe Gracy a chyfansoddwyd gan Jean-Paul Cara. Daeth y Deyrnas Unedig yn ail gyda Lynsey de Paul a Mike Moran, ac Iwerddon, Monaco a Gwlad Groeg yn cwblhau y pump uchaf. Roedd llwyddiant Ffrainc yn record hyd yn hyn, a chafodd ei thorri gan Nodyn:Lwcsembwrg ym 1983.
Dewiswyd y Canolfan Cynhadledd Wembley newydd i fod y lleoliad ar gyfer y gystadleuaeth. Cafodd y canolfan ei dymchwel yn 2006.
Daeth y rheol i ganu mewn ieithoedd swyddogol mewn grym eto yn y gystadleuaeth hon, pedair mlynedd ar ôl dewisiad i sgrapio'r rheol ar gyfer y gystadleuaeth ym 1973. Serch hynny, roedd caniatad gan Yr Almaen a Gwlad Belg canu yn Saesneg am y ffaith mai'r ddau gwlad wedi dewis eu caneuon yn barod wrth ystyried y rheol fel "awgrym".[1]
Roedd nifer o gamgymeriadau yn ystod y cyfnod pleidleisio, ac roedd angen i'r goruchwyliwr Clifford Brown gywiro'r pwyntiau. Cywirwyd y pwyntiau ar ôl y darllediad.
Roedd arweinydd gan y cerddorfa ar gyfer pob perfformiad.[2]
Trefn | Gwlad | Canwr | Cân | Iaith[3][4] | Cyfieithiad | Pwyntiau | Safle[5] |
---|---|---|---|---|---|---|---|
1 | ![]() |
Swarbriggs Plus Two, TheThe Swarbriggs Plus Two | "It's Nice to Be in Love Again" | Saesneg | "Mae'n neis bod mewn cariad eto" | 119 | 3 |
2 | ![]() |
Torr, MichèleMichèle Torr | "Une petite française" | Ffrangeg | "Ffrances fach" | 96 | 4 |
3 | ![]() |
Lester, HeddyHeddy Lester | "De mallemolen" | Iseldireg | "Meri-go-rownd" | 35 | 12 |
4 | ![]() |
Schmetterlinge | "Boom Boom Boomerang" | Almaeneg | 11 | 17 | |
5 | ![]() |
Skorgan, AnitaAnita Skorgan | "Casanova" | Norwyeg | 18 | 14 | |
6 | ![]() |
Silver Convention | "Telegram" | Saesneg | "Gwifreb" | 55 | 8 |
7 | ![]() |
B, Anne-MarieAnne-Marie B | "Frère Jacques" | Ffrangeg | 17 | 16 | |
8 | ![]() |
Amigos, OsOs Amigos | "Portugal no coração" | Portiwgaleg | "Portiwgal yn fy nghalon" | 18 | 14 |
9 | ![]() |
Paul, Lynsey deLynsey de Paul and Mike Moran | "Rock Bottom" | Saesneg | "Y gwaelod" | 121 | 2 |
10 | ![]() |
Pascalis, Marianna, Robert and Bessy | "Mathema solfege" (Μάθημα σολφέζ) | Groeg | "Gwers sol-ffa" | 92 | 5 |
11 | ![]() |
Ilanit | "Ahava Hi Shir Lishnayim" (אהבה היא שיר לשניים) | Hebraeg | "Mae cariad yn gân i ddau" | 49 | 11 |
12 | ![]() |
Lienhard Band, PepePepe Lienhard Band | "Swiss Lady" | Almaeneg | "Menyw Swisaidd" | 71 | 6 |
13 | ![]() |
Forbes | "Beatles" | Swedeg | 2 | 18 | |
14 | ![]() |
Micky | "Enséñame a cantar" | Sbaeneg | "Dysgwch fi i ganu" | 52 | 9 |
15 | ![]() |
Martini, MiaMia Martini | "Libera" | Eidaleg | "Rhydd" | 33 | 13 |
16 | ![]() |
Aspelund, MonicaMonica Aspelund | "Lapponia" | Ffineg | 50 | 10 | |
17 | ![]() |
Dream Express | "A Million in One, Two, Three" | Saesneg | "Miliwn mewn un, dau, tri" | 69 | 7 |
18 | ![]() |
Myriam, MarieMarie Myriam | "L'oiseau et l'enfant" | Ffrangeg | "Yr aderyn a'r plentyn" | 136 | 1 |
Gohiriwyd y gystadleuaeth am fis oherwydd streic gan ddynion camera a thechnegwyr y BBC. Hefyd, o ganlyniad i'r streiciau a diffyg amser trefnu'r gystadleuaeth, nid oedd cardiau lluniau ar gyfer y cynhyrchiad teledu, a dangoswyd y gynulleidfa yn eu lle.[1]