Cystadleuaeth Cân Eurovision 2010 | |
---|---|
"Share The Moment" ("Rhannwch Y Foment") | |
Dyddiad(au) | |
Rownd cyn-derfynol 1 | 25 Mai 2010 |
Rownd cyn-derfynol 2 | 27 Mai 2010 |
Rownd terfynol | 29 Mai 2010 |
Cynhyrchiad | |
Lleoliad | Arena Telenor, Bærum, Oslo, Norwy |
Cyflwynyddion | Erik Solbakken Haddy N'jie Nadia Hasnaoui[1] |
Cystadleuwyr | |
Tynnu'n ôl | Andorra Gweriniaeth Tsiec Hwngari Montenegro |
Canlyniadau | |
Cystadleuaeth Cân Eurovision 2010 oedd y 55ain Cystadleuaeth Cân Eurovision. Fe'i cynhaliwyd rhwng 25 a 29 Mai 2010 yn Oslo, Norwy[2], Norwy. Thema'r gystadleuaeth oedd "Share The Moment" ("Rhannwch Y Foment" yn Gymraeg). Bu 39 gwlad yn cystadlu yn y gystadleuaeth. Dychwelodd Georgia i'r gystadleuaeth ar ôl blwyddyn o absenoldeb, ond ni chystadlodd Andorra, y Weriniaeth Tsiec, Hwngari na Montenegro.
Cyhoeddodd yr Undeb Ddarlledu Ewropeaidd (EBU) y byddai'n ceisio perswadio cwmnïau darlledu'r Eidal, Lwcsembwrg, Monaco ac Awstria i ddychwelyd yn 2010[3] ond ni bu'r trafodion hyn yn llwyddiannus am amryw o resymau. Erbyn 13 Mai 2009, roedd yr EBU wedi cadarnhau na allai Kazakhstan, Qatar a gwledydd tebyg gystadlu am eu bod yn disgyn y tu allan i'r Ardal Ddarlledu Ewropeaidd. Nid oedd gwledydd newydd posib yn gymwys[4] .
Ar 3 Gorffennaf 2009, penderfynodd cwmni darlledu Norwy, NRK, gynnal y gystadleuaeth yn y Fornebu Arena (a arferai gael ei alw'n Arena Telenor), Bærum, yn agos i ganol dinas Oslo.[5] Cyhoeddodd gweinidog diwylliant Norwy, Trond Giske, yn wreiddiol y byddai cyllideb o €17 miliwn (150 miliwn Kroner) yn cael ei gwario ar y gystadleuaeth, cyfanswm llai nag a wariwyd ar gystadleuaeth Moscow 2009 ond yn fwy na chystadleuaeth Helsinki 2007[6]. Ar 27 Mai amcangyfrifwyd mai 211 miliwn kroner (€24 miliwn) oedd gwir gost y gyngerdd.[7]
Dangoswyd y thema a'r slogan gan NRK ar 4 Rhagfyr 2009 yn ystod y Gyfnewidfa Arwyddluniau Dinasoedd Cynhalwyr y gystadleuaeth rhwng meiri Moscow, Oslo a Bærum. Symboleiddiodd hyn ddechrau swyddogol tymor Cystadleuaeth Gân Eurovision 2010. Dewiswyd y thema, casgliad cylchau sydd yn croesi, i 'gynrychioli pobl yn dod at ei gilydd ac emosyinau amrywiol Cystadleuaeth Gân Eurovision'.[8] Cyhoeddwyd rhagolwg y llwyfan ar 6 Mai 2010. Doedd y llwyfan ddim yn defnyddio sgriniau LED ond roedd yn cynnwys technegau golau.[9]
Roedd llawer o syniadau yn y wasg Norwyaidd am gyflwyr posib ar gyfer cystadleuaeth 2010. Crybwyllwyd enwau cyflwynwyr NRK Jon Almaas a Fredrick Skavlan, ac enillodd cyflwynwyr poblogaidd TV 2 Thomas Numme a Harald Rønneberg arolwg barn Dagbladet (papur newydd Norwyaidd) ar ei wefan.[10]
Cyhoeddodd NRK enwau'r cyflwynwyr ar 10 Mai 2010, sef Erik Solbakken, Haddy N'jie a Nadia Hasnaoui. Roedd Solbakken a N'jie i fod i agor y sioeau, cyflwyno'r artistiaid a rhoi adroddiadau o'r ystafell werdd. Rhan Hasnaoui oedd cyflwyno'r pleidleisiau a'r bwrdd sgôr. Dyma'r ail dro i'r Eurovision gael ei chyflwyno gan fwy na dau gyflwynydd ers Cystadleuaeth Cân Eurovision 1999.
Ar 7 Chwefror 2010 rhannwyd y gwledydd ym bum grŵp yn ôl patrymau pleidleisio yn y cystadlaethau blaenorol. Yna, tynnwyd enwau allan o'r pum pot i benderfynu pa wledydd fyddai'n cymryd rhan yn y rownd gyn-derfynol gyntaf a pa rai fyddai'n cael lle yn yr ail rownd gyn-derfynol. Penderfynwyd hefyd ym mha rownd gyn-derfynol y byddai'r Pedwar Mawr (Y Deyrnas Unedig, Ffrainc, Sbaen a'r Almaen) a'r gwesteiwyr Norwy yn pleidleisio yn dilyn fformat 2009.
Pot 1 | Pot 2 | Pot 3 | Pot 4 | Pot 5 |
---|---|---|---|---|
Cadarnhaodd 39 gwlad eu bwriad i gymryd rhan yng nghystadleuaeth 2010.
Cyhoeddwyd pleidleisiau'r gwledydd yn y drefn canlynol:[11]
Gwlad | Nodiadau |
---|---|
Andorra | Mae darlledwr Andorra wedi cael cwtogiadau yn eu cyllidebau o tua 10%. O achos hyn, ni fydd Andorra yn cyfranogi. |
Awstria | [12] |
Gweriniaeth Tsiec | [13] |
Hwngari | – |
Liechtenstein | Mae Liechtenstein yn ceisio ymuno â'r UDE a bydd y wlad yn cystadlu pan fydd hi'n aelod, mwy na thebyg yn 2011/2012. Mae hi'n barod i ddechrau cystadlu gyda chystadleuaeth cenedlaethol sy'n debyg i'r sioe Almaenaidd Deutschland sucht den Superstar. |
Lwcsembwrg | [14] |
Monaco | [15] |
Montenegro | – |
San Marino | [16] |
Gwlad | Nodiadau |
---|---|
Awstralia | Ni all Awstralia'n gystadlu yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision ond bydd Special Broadcasting Service (SBS) yn darlledu'r gystadleuaeth.[17] |
Seland Newydd | Ni all Seland Newydd gystadlu yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision ond bydd Triangle TV yn darlledu'r gystadleuaeth ar ei sianel lloeren STRATOS. |
|