Marchnata |
Cysyniadau allweddol |
Cymysgedd marchnata: |
Cysyniadau hyrwyddo |
Cymysgedd hyrwyddo: |
Cyfryngau hyrwyddo |
Cyhoeddi • Darlledu |
Yr arfer o reoli enw neu frand a chynhyrchu ewyllys da ar ran sefydliadau neu unigolion yw cysylltiadau cyhoeddus[1][2] neu PR.[3] Cychwynnodd ar ddechrau'r 20g yn yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig fel agwedd o reolaeth, ac yn hwyrach daeth yn ddisgyblaeth academaidd. Heddiw ymarferir cysylltiadau cyhoeddus yn y sectorau masnachol a chyhoeddus ar draws y byd. Mae arbenigwr y maes hwn yn galw ar reolaeth argyfwng, lobïo gwleidyddol, materion ariannol a chyfreithiol, gweithgarwch yn y gymuned, a chyfathrebu mewnol i sicrhau sylw'r cyfryngau sydd o fudd i'w gyflogwyr.[4][5]