Nid oes gan Gwlad Belg fawr o bŵer ar y llwyfan ryngwladol ynddi ei hun, ond fel aelod allweddol o'r Undeb Ewropeaidd, cefnogwr cryf o NATO, a chyn-bŵer trefedigaethol yng Nghanolbarth Affrica mae ganddi dylanwad cymharol gryf mewn nifer o faterion rhyngwladol. Mae'n aelod o'r Cenhedloedd Unedig ac aelod etholedig o'r Cyngor Diogelwch am 2007-2009.
Cysylltiadau agosaf Gwlad Belg yw gyda'r Iseldiroedd a Lwcsembwrg: gyda'i gilydd mae'r tair yn ffurfio'r Undeb Economaidd Benelux. Roedd Gwlad Belg hefyd yn un o chwe aelod cyntaf yr Undeb Ewropeaidd pan y sefydlwyd yn 1957, ac fe leolir pencadlysoedd y Comisiwn Ewropeaidd, Cyngor yr Undeb a'r Senedd Ewropeaidd (am gyfarfodydd paratoadol a sesiynau cyflenwol) ym Mrwsel. Mae Gwlad Belg wedi bod yn cefnogwr cryf o integreiddio Ewropeaidd economaidd a gwleidyddol.