Cytsain amcanedig

Mewn seineg, cytsain lle y mae ynganyddion yn nesáu at ei gilydd, ond heb ddigon o gulni na manylder i greu llif anadl aflonydd, yw cytsain amcanedig. Maen cytseiniau amcanedig yn cyferbynnu â ffrithiolion, sy'n cynhyrchu llif anadl aflonydd, a llafariaid, nad ydynt yn creu aflonyddwch anadl.

Ceir y cytseiniaid amcanedig canlynol yn yr Wyddor Seinegol Ryngwladol (IPA):

IPA Disgrifiad Enghraifft
Iaith Sillafu IPA Ystyr
β̞ cytsain amcanedig ddwywefusol leisiol Sbaeneg lobo [loβ̞o] blaidd
cytsain amcanedig wefus-ddeintiol Iseldireg wang [ʋɑŋ] boch
ð̞ cytsain amcanedig ddeintiol Sbaeneg codo [koð̪o] penelin
cytsain amcanedig ochrol ddeintiol Sbaeneg alto [at̪o] tal
ɹ cytsain amcanedig orfannol Saesneg red [ɹɛd] coch
l cytsain amcanedig ochrol orfannol Cymraeg y de lôn [loːn] lôn
cytsain amcanedig olblyg Tamil தமிழ் (Tami) [t̪ɐmɨɻ] Tamil
cytsain amcanedig ochrol olblyg Swedeg Karlstad [kʰɑːɭ.sta] Karlstad
cytsain amcanedig daflodol Cymraeg iâr [jaːr] iâr
cytsain amcanedig ochrol daflodol Eidaleg aglio [aʎːo] garlleg
cytsain amcanedig wefus-felar ddi-lais Cymraeg y De chwech [ʍeːχ] chwech
cytsain amcanedig felar Sbaeneg pagar [paɰaɾ] talu
cystain amcanedig ochrol felar iaith Mid-Wahgi aʟaʟe [aʟaʟe] chwil, penysgafn
cytsain amcanedig wefus-felar leisiol Cymraeg wal [wal] wal
ʕ cytsain amcanedig argegol Hebraeg Mishnäig עין [ʕaːjin̪] y llythyren Hebraeg ain

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  • Ladefoged, Peter; Ian Maddieson (1996). The Sounds of the World's Languages. Rhydychen: Blackwell. ISBN 0-631-19814-8.