Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | The Causses and the Cévennes, Mediterranean agro-pastoral Cultural Landscape |
Gwlad | Ffrainc |
Uwch y môr | 1,702 metr |
Cyfesurynnau | 44.426236°N 3.739264°E |
Cadwyn fynydd | Massif central |
Mynyddoedd yn rhan ddeheuol canolbarth Ffrainc yw'r Cévennes. Maent yn rhan o'r Massif Central, ac yn cynnwys rhannau o départements Gard, Lozère, Ardèche, a Haute-Loire.
Daw'r enw o'r Galeg Cebenna, a Ladineiddiwyd gan Iŵl Cesar i Cevenna. Y copa uchaf yw Mont Lozère (1702m), gyda Mont Aigoual (1567m) hefyd yn nodedig. Ceir tarddiad nifer o afonydd yma, gydag afon Loire ac afon Allier yn llifo tua Môr Iwerydd ac eraill i'r Môr Canoldir megis afon Ardèche ac afon Hérault. Crëwyd Parc Cenedlaetthol y Cévennes yn 1970.
Mae'r ardal adnabyddus am y ganran uchel o Brotestaniaid neu Huguenotiaid.