D. O. Fagunwa

D. O. Fagunwa
Ganwyd1903 Edit this on Wikidata
Ile Oluji/Okeigbo Edit this on Wikidata
Bu farw9 Rhagfyr 1963, 7 Rhagfyr 1963, 1963 Edit this on Wikidata
o boddi Edit this on Wikidata
Bida Edit this on Wikidata
DinasyddiaethNigeria Edit this on Wikidata
Swyddathro cadeiriol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amOgboju Ode ninu Igbo Irunmole Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata

Llenor Nigeriaidd yn yr iaith Iorwba oedd Daniel Oròwọlé Ọlórunfẹ́mi Fágúnwà (tua 19039 Rhagfyr 1963) sy'n nodedig am arloesi'r nofel Iorwba.[1]

Ganed ef yn Okeigbo, ger Ondo, yn Ne Nigeria, a oedd dan brotectoriaeth yr Ymerodraeth Brydeinig. Mae'n debyg mai nofel gyntaf Fagunwa, Ògbójú Ọdẹ nínú Igbó Irúnmọlẹ̀ ("Yr Heliwr Dewr yng Nghoedwig y 400 Duw", 1938) oedd y nofel hir gynharaf i'w chyhoeddi yn yr iaith Iorwba. Mae ei nofelau eraill yn cynnwys Igbo Olodumare ("Coedwig Duw", 1949), Ireke Onibudo ("Cansen Siwgr y Gwarchodwr", 1949), Irinkerindo Ninu Igbo Elegbeje ("Ar Grwydr yng Nghoedwig Elegbeje", 1954), ac Adiitu Olodumare ("Cyfrinach yr Hollalluog", 1961), ac ysgrifennodd hefyd nifer o straeon byrion a dau deithlyfr.[1]

Mae ffuglen Fagunwa yn straeon picarésg gan amlaf, sy'n tynnu'n gryf ar elfennau llên gwerin Nigeria: ysbrydion, anghenfilod, duwdodau, ac hud a lledrith. Maent yn llawn antur a ffantasi, ac yn cyfuno digrifwch â moeswersi a doethineb y dihareb. Dylanwadwyd arno hefyd gan gysyniadau Cristnogol, gan gynnwys ei ddarlleniad o Taith y Pererin gan John Bunyan a gyfieithiwyd i Iorwba gan genhadon Prydeinig.

Bu farw D. O. Fagunwa ger Bida, oddeutu 60 oed.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) D. O. Fagunwa. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Ionawr 2024.