Math o gyfrwng | dadleuon |
---|---|
Dyddiad | 2005 |
Dechreuwyd | 30 Medi 2005 |
Gwefan | https://jp.dk |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dechreuodd dadl cartwnau Muhammad Jyllands-Posten yn dilyn cyhoeddiad deuddeg o gartwnau golygyddol, y rhan fwyaf ohonynt yn portreadu'r proffwyd Islamaidd Muhammad, yn y papur newydd Daneg Jyllands-Posten ar 30 Medi, 2005. Esboniodd y papur newydd taw cyfraniad i'r ddadl ynglŷn â beirniadaeth o Islam ac hunan-sensoriaeth oedd y cyhoeddiad. Fel ymateb, cynhaliodd mudiadau Mwslimaidd Danaidd protestiadau cyhoeddus a chodont wybodaeth ynglŷn â chyhoeddiad Jyllands-Posten. Wrth i'r ddadl mwyhau, ailargraffwyd enghreifftiau o'r cartwnau mewn papurau newydd mewn dros 50 o wledydd eraill, a arweiniodd at brotestiadau treisgar yn ogystal â phrotestiadau heddychol, yn cynnwys terfysgoedd (yn enwedig ym myd Islam).
Disgrifiwyd y cartwnau fel Islamoffobig gan rai beirniaid a ddadleuwyd eu bod yn gableddus i Fwslemiaid, yn bwriadu bychanu lleiafrif Danaidd, mewn cyd-destun o gynnydd baetio mewnfudwyr yn Nenmarc, ac yn enghraifft o anwybodaeth am hanes imperialaeth Orllewinol, o wladychiaeth i'r gwrthdaro cyfredol yn y Dwyrain Canol.[1]
Dywedir cefnogwyr y cartwnau taw darlunio pwnc pwysig o fewn cyfnod o derfysgaeth eithafol Islamaidd ydynt ac mae'u cyhoeddiad yn ymarfer deg o ryddid barn. Maent hefyd yn dweud cânt gartwnau tebyg am grefyddau eraill eu hargraffu'n aml, ac felly ni chânt ddilynwyr Islam eu gwahaniaethu yn eu herbyn.[2]
Disgrifiodd Prif Weinidog Denmarc, Anders Fogh Rasmussen, y ddadl fel argyfwng rhyngwladol gwaethaf Denmarc ers yr Ail Ryfel Byd.[3]