![]() | |
Enghraifft o: | brîd o gi ![]() |
---|---|
Math | ci ![]() |
Màs | 8.5 cilogram, 10.5 cilogram ![]() |
Gwlad | Yr Alban ![]() |
![]() |
Daeargi byrgoes sy'n tarddu o'r Alban yw'r Daeargi Albanaidd neu'r Daeargi Sgotaidd.[1] Mae ganddo gôt o flew gwrychog o liw du, brych, llwyd, llwydlas, tywodliw, neu wenithliw. Saif tua 25 cm yn llawn dwf ac mae'n pwyso 8 i 10 kg. Mae ganddo gerddediad siglog ac yn aml disgrifir yn frîd cryf a dewr ei dymer.[2]