Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi |
---|---|
Màs | 9 cilogram, 8.2 cilogram |
Gwlad | Cymru |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Daeargi byrgoes, gwyn a fridiwyd tua diwedd y 19g gan y Capten John Edwardes ym Mhenfro yw'r Daeargi Sealyham.[1] Saif Plasdy Sealyham House yng Nghas-blaidd ac fe'i bridiwyd i hela moch daear, dyfrgwn, carlymiaid a llwynogod.[2] Cafodd y ci hwn ei arddangos am y tro cyntaf yn Hwlffordd yn 1903. Yn ddiweddarach croeswyd Daeargi Sealyham gyda Daeargi Albanaidd a chafwyd brid o'r enw Daeargi Cesky, sy'n dal i gael eu bridio yn y Weriniaeth Tsiec. Mae'r Daeargi Sealyham yn gyfuniad o dri brid: y Corgi, y Daeargi Gwrychog Codi Cadno a'r Daeargi Gwyn Seisnig (sydd bellach wedi darfod). Crewyd Cymdeithas Daeargwn Sealyham yn 1908.
Daeth y brid yn hynod o boblogaidd wedi'r Rhyfel Byd Cyntaf, yn bennaf oherwydd i sêr Hollywood a theulu brenhinol Lloegr eu prynnu. Ond yn ddiweddar oherwydd fod cymaint o fridiau mwy ffasiynol ar gael, a deddfwrthiaeth gwrth-hela, cwympodd eu niferoedd yn sylweddol; erbyn 2008 dim ond 43 o gŵn bach, pur eu gwaed a gofrestwyd gyda Chlwb Cennel y Deyrnas Gyfunol a rhoddwyd ef ar Restr y Cŵn Mewn Perygl.[3]
Daeargwn - bridiwyd y daeargi Cymreig torgoch i dyrchu ar ôl llwynogod ac i ladd llygod mawr. Ci sioe rhyngwladol bwysig erbyn hyn. Y daeargi Sealyham gwyn o Benfro bellach yn brin. O'r Sealyham x Scottie y magwyd y daeargi Cesky yng Ngweriniaeth Tsiec.