Daeargoel (hefyd daearddewiniaeth) yw enw dull o ddarogan lle caiff olion ar y ddaear neu batrymau a ffurfiwyd ar ôl taflu dyrneidiau o bridd, cerrig, neu dywod eu dehongli. Yn bennaf mae'r term yn cyfeirio at ddull penodol o ddarogan â'i gwreiddiau yn Arabia a Phersia a ddaeth yn boblogaidd ar draws Ewrop yn ystod y Canol Oesoedd a'r Diwygiad, ond ceir dulliau eraill a ellir disgrifio fel daeargoel, megis Llyfr y Newidiadau o Tsieina, coelbrennau, y defnydd Neo-baganaidd o'r Ogam o Iwerddon, y rwnau o'r Llychlyn, ac ymarferiadau eraill o Asia (megis y Kumalak o Kazakstan) ac Affrica (megis y penillion Odu o Nigeria).
Defnyddiwyd y ffurf Ewropeaidd boblogaidd o ddaeargoel gan ddynion hysbys yng Nghymru[1]
Yn ei llyfr Byd y Dyn Hysbys: Swyngyfaredd yng Nghymru disgrifia'r awdures Kate Bosse-Griffiths sut yr ymarferai dynion hysbys ddaeargoel.[2] Er mwyn creu'r awyrgylch priodol byddai'r Dyn Hysbys yn dechrau gyda "Gweddi Daeargoel" yn ymbil ar Dduw wrth wneud "y ffigur hwn o ddaeargoel" er mwyn cael ateb a fyddai'n wir a pherffaith, a hynny "yn enw Iesu Grist, ein Harglwydd a'n Gwaredwr". Wedyn gofynnir i'r holwr wneud yn gyflym bedair llinell o ddotiau heb ystyried y rhif. Wrth feirniadu'r dotiau, yr unig beth o bwys yw, a yw'r rhif yn wastad neu beidio. Er mwyn cyfansoddi'r ffigur daeargoelus, gosodir un pwynt i lawr ar gyfer pob llinell "anwastad" a dau bwynt ar gyfer pob llinell wastad.
Wrth ddefnyddio ffigurau o bedair llinell y mae'n bosibl cael 16 o amrywiadau, ac felly'r un nifer o ffigurau daeargoelus gwahanol. Rhoddir enw Lladin i bob un o'r ffigurau ac fe'u cysylltir, bob yn ddau, â'r planedau sêr-ddewiniol sy'n rheoli'r wythnos, sef yr Haul, y Lleuad, Mawrth, Mercher, Iau, Gwener a Sadwrn, ac eithrio'r ddau ffigur olaf, a gysylltir ag "Y Ddraig".
Cyfeirir at yr holwr fel "breuddwydiwr" ac at yr atebion fel "breuddwydion".
Noddwr | Cymraeg | Ffigurau |
---|---|---|
Solis | Yr Haul | Fortuna Major; Fortuna Minor |
Lunae | Y Lleuad | Via; Populus |
Iovis | Iau | Acquisitio; Laetitia |
Veneris | Gwener | Puella; Amissa |
Mercurius | Mercher | Conjunctio; Albus |
Martis | Mawrth | Puer; Rubens |
Saturni | Sadwrn | Cancer; Tristitia |
Draconis | Y Ddraig | Caput Draconis; Cauda Draconis |
Y breuddwydion, sef arwyddocâd y ffigurau.