Dan Ar Braz | |
---|---|
Ganwyd | Daniel Le Bras 15 Ionawr 1949 Kemper |
Label recordio | Sony Music Entertainment |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | gitarydd, canwr, canwr-gyfansoddwr |
Arddull | cerddoriaeth Celtaidd |
Gwobr/au | Victory of the album of traditional musics or musics of the world, Victory of the album of traditional musics or musics of the world |
Gwefan | http://www.danarbraz.com |
Gitarydd Llydewig yw Dan Ar Braz (ganed Daniel Le Bras, 15 Ionawr 1949, Kemper).
Dechreuodd ei yrfa gerddorl wedi iddo gyfarfod Alan Stivell. Rhwng 1967 a 1977 bu'n rhan o grŵp Stivell, yna yn 1977 cynhyrchodd ei albwm cyntaf ar ei ben ei hun. Yn 1992 gofynnodd trefnwyr y Festival de Cornouailles yn ninas Kemper, iddo fod yn gyfrifol am drefnu cerddoriaeth Geltaidd ar gyfer gŵyl y flwyddyn ganlynol. Casglodd 70 o gerddorion Celtaidd at ei gilydd dan yr enw L'Héritage des Celtes, a bu'n llwyddiannus dros ben.
Ei ymweliad cyntaf â Chymru oedd i Glwb Gwerin Rhuthun yn 1981.