Daniel Sharman | |
---|---|
Ganwyd | 25 Ebrill 1986 Llundain |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor teledu, actor ffilm, Teen Wolf |
Mae Daniel Andrew Sharman (ganed 25 Ebrill 1986) yn actor o Sais o Hackney, yn Llundain. Mae'n mwyaf adnabyddus am ei rolau fel Troy Otto ar Fear The Walking Dead, Isaac Lahey ar Teen Wolf a Kaleb ar The Originals.
Dechreuodd Sharman actio fel plentyn pan oedd o'n naw oed. Aeth am glyweliad gyda'r Royal Shakespeare Company a cafodd ei ddewis allan o gannoedd o blant. Aeth Sharman i ysgol Mill Hill a hefyd yr ysgol addysg gelfyddol. Yn ystod ei flynyddoedd ysgol, perfformiodd Sharman yn y sioe Kvetch yn Ngŵyl Edinburgh Fringe.
Rhwng 2004 a 2007, astudiodd Sharman yn y London Academy of Music and Dramatic Art, lle enillodd radd BA.
Dechreuodd Sharman actio fel Isaac Lahey yn rhaglen MTV Teen Wolf yn 2012, a gadawodd y rhaglen ar ôl y trydydd cyfres i weithio ar brosiectau eraill.
Darllenodd y fersiwn clywedol o lyfr Cassandra Clare, Clockwork Princess.
Roedd Sharman mewn perthynas gyda'i gyd-seren ar Teen Wolf, Crystal Reed, rhwng 2011 a 2013.
Mae Sharman yn cefnogi tîm pêl-droed Seisnig Arsenal.
Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
2010 | The Last Days of Edgar Harding | Harry | |
2011 | The Sexy Dark Ages | Ulric | Ffilm byr |
2011 | Immortals | Ares | |
2012 | The Collection | Basil | |
2015 | Drone | Matt Collier | Ffilm byr |
2015 | The Juilliard of Broken Dreams | Jeffrey | Ffilm byr; hefyd yn cyd-gynhyrchydd |
2016 | Soon You Will Be Gone | Jason | Ffilm byr; hefyd yn cyd-gynhyrchydd |
2016 | Albion: The Enchanted Stallion | Lir |
Blwyddyn | Teitl | Rôl | Nodiadau |
---|---|---|---|
2003 | Judge John Deed | Andy Dobbs | Pennod: "Judicial Review" |
2007 | Starting Over | Alexander Dewhurst | Ffilm teledu |
2009 | Inspector Lewis | Richard Scott | Pennod "The Quality of Mercy" |
2011 | The Nine Lives of Chloe King | Zane | Penodau: "Responsible" a "Beautiful Day" |
2012–2014 | Teen Wolf | Isaac Lahey | 32 bennod |
2013 | When Calls the Heart | Edward Montclair | Ffilm teledu |
2014–2015 | The Originals | Kaleb Westphall / Kol Mikaelson | 12 bennod |
2017 | Mercy Street | Lord Edward | Penodau: "Unknown Soldier" a "House of Bondage" |
2017 | Fear The Walking Dead | Troy Otto | Prif rôl (cyfres 3); 14 bennod |
2018 | Medici: Masters of Florence | Lorenzo de' Medici | Rôl arweinol (cyfres 2); 8 bennod |
Blwyddyn | Teitl | Nodiadau |
---|---|---|
2017 | Simularity | Ffilm byr |
Blwyddyn | Teitl | Rôl | Artist | Ref. |
---|---|---|---|---|
2016 | "Where's the Love?" | Ei hun | The Black Eyed Peas featuring The World | [1] |
Blwyddyn | Gwobr | Categori | Gwaith | Canlyniad |
---|---|---|---|---|
2015 | FilmQuest, US | Actor gorau - byr | Drone | Enwebwyd |