Darren Morgan | |
---|---|
Ganwyd | 3 Mai 1966 Casnewydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | chwaraewr snwcer |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Mae Darren Morgan (ganwyd 3 Mai 1966) yn gyn chwaraewr snwcer proffesiynol o Gymru sydd nawr yn cystadlu fel amatur.
Enillodd Morgan y Bencampwriaeth Amatur Byd yn 1987 gan chwarae ar y brif daith broffesiynol o 1988 hyd at 2007. Enillodd ychydig dros £1 miliwn mewn gwobrau, gan gyrraedd rhif wyth yn y byd, ac roedd o fewn y 16 ucha am nifer o flynyddoedd er na enillodd un o'r prif gystadlaethau. Cyflawnodd 111 o rediadau o gant yn ystod ei yrfa, un o dim ond 49 chwaraewr i gwblhau canrif tra'n chwarae'n broffesiynol.
Ganwyd Morgan yng Nghasnewydd, De Cymru.
Ei brif gyflawniadau tra'n broffesiynol oedd ennill yr Irish Masters yn 1996, gan faeddu Steve Davis 9-8 yn y ffeinal, a bod yn gapten ar Gymru pan enillwyd y Nations Cup yn 1999. Cyrhaeddodd y rownd gyn-derfynol yn y Bencampwriaeth Byd yn 1994, gan faeddu Mark King 10-5, Willie Thorne 13-12 a John Parrott 13-11 cyn colli i Jimmy White 9-16. Cyrhaeddodd rownd yr wyth olaf ar dri achlysur, gan faeddu Ken Doherty a Ronnie O-Sullivan yn 1996 a 1997 yn y Crucible. Pan faeddodd Morgan O'Sullivan yn 1997, dyma'r rownd ar ôl i O'Sullivan sgorio'r 147 cofiadau yn erbyn Mick Price a hynny mewn 5 munud 20 eiliad.
Mae Morgan yn parhau i chwarae mewn digwyddiadau amatur a pro-am, ac enillodd y Meistr Ewropeaidd a'r Bencampwriaeth Meistri'r Byd yn 2007. Ar yr 22 Hydref 2009 enillodd y TCC Pro-Am gan faeddu ei gyd Gymro Mark Williams 7-4 yn y ffeinal.
Enillodd Morgan ei ail Bencampwriaeth Snwcer Byd IBSF yn yr adran Meistri ar y 23ain o Dachwedd 2009, gan faeddu Dene Kane o Seland Newydd, a fu'n bencampwr ar dair achlysur ac a oedd yn amddiffyn ei deitl, o 6-0 yn y ffeinal.
Chwaraeodd Morgan fel amatur ynghyd â Tony Knowles yng Nghystadleuaeth Byd Agored 2010 gan achosi tipyn o sioc trwy gyrraedd y 64 olaf yn y gystadleuaeth, cyn colli o drwch blewyn i'r cyn rhif un yn y byd Matthew Stevens 3-2 yn y drydydd rownd.
Ym mis Tachwedd 2011, chwaraeodd ym Mhencampwriaeth Hŷn y Byd yn Peterborough gan faeddu Steve Davis yn y ffeinal. Maeddodd Morgan y cyn bencampwr byd Cliff Thorburn a 'Whirlwind' Jimmy White yn y rowndiau cynt cyn gwynebu y pencampwr byd ar chwech achlysur yn y ffeinal. Roedd yn rhaid i Morgan ennill gemau cymhwyso er mwyn cyrraedd rowndiau terfynol y twrnament. Maeddodd Morgan Davis 2-1 yn y ffeinal gan ddod adref a'r tlws i'w glwb yn Cross Keys.
Ym mis Mehefin 2016, fel aelod 'wildcard' ar gyfer y Riga Masters ar ol ennill teitl y EBSA European Open rai wythnosau'n gynt, maeddodd Morgan Bradley Jones 4-3, Adam Stefanow 4-2, Zhao Xintong 4-1, Doherty 4-3 a Xiao Guodong 4-2 i baratoi ar gyfer cyfarfod a Neil Robertson yn y rownd gyn-derfynol. Gan ymddangos yn y cam yma o ddigwyddiad rhengol am y tro cyntaf ers 1999, a bod yr hynaf i gyrraedd y rownd gyn-derfynol ers Rex Williams yn 1986, collodd Morgan o 5-0 i'r un a oedd yn bencampwr yn y pendraw.[1]
Mae'n byw gyda'i wraig, Tracy, a'u tair merch yn Nhrecelyn, ac mae'n berchen ar glwb snwcer cyfagos yn Crosskeys, Casnewydd, o'r enw The Red Triangle, lle mae'n hyfforddi chwaraewyr ifanc.[2]
Canlyniad | Rhif. | Blwyddyn | Pencampwriaeth | Gwrthwynebydd yn y ffeinal | Sgôr |
Ail | 1. | 1992 | Welsh Open | Hendry, StephenStephen Hendry | 3–9 |
Ail | 2. | 1993 | Asian Open | Harold, DaveDave Harold | 3–9 |
Canlyniad | Rhif. | Blwyddyn | Pencampwriaeth | Gwrthwynebydd yn y ffeinal | Sgôr |
Enillydd | 1. | 1989 | Pontins Professional | Drago, TonyTony Drago | 9–2 |
Ail | 1. | 1989 | WPBSA Non-Ranking - Event 1 | Foldvari, RobbyRobby Foldvari | 1–8 |
Enillydd | 2. | 1990 | Welsh Professional Championship | Mountjoy, DougDoug Mountjoy | 9–7 |
Enillydd | 3. | 1990 | Shoot-Out | Hallett, MikeMike Hallett | 2–1 |
Enillydd | 4. | 1991 | Welsh Professional Championship (2) | Bennett, MarkMark Bennett | 9–3 |
Ail | 2. | 1991 | Benson & Hedges Championship | Doherty, KenKen Doherty | 3–9 |
Ail | 3. | 1993 | Pontins Professional | Doherty, KenKen Doherty | 3–9 |
Enillydd | 5. | 1996 | Irish Masters | Davis, SteveSteve Davis | 9–8 |
Ail | 4. | 1997 | Irish Masters | Hendry, StephenStephen Hendry | 8–9 |
Enillydd | 6. | 2000 | Pontins Professional (2) | White, JimmyJimmy White | 9–2 |
Enillydd | 7. | 2011 | World Seniors Championship | Davis, SteveSteve Davis | 2–1 |
Ail | 5. | 2016 | World Seniors Championship | Davis, MarkMark Davis | 1–2 |
Canlyniad | Rhif. | Blwyddyn | Pencampwriaeth | Tîm/partner | Gwrthwynebydd yn y ffeinal | Sgôr |
Enillydd | 1. | 1999 | Nations Cup | Cymru | Yr Alban | 6–4 |
Ail | 1. | 2000 | Nations Cup | Cymru | Lloegr | 4–6 |
Canlyniad | Rhif. | Blwyddyn | Pencampwriaeth | Gwrthwynebydd yn y ffeinal | Sgôr |
Ail | 1. | 1996 | Pontins Spring Open | Doherty, KenKen Doherty | 3–7 |
Enillydd | 1. | 2009 | TCC Open Snooker Championship | Williams, MarkMark Williams | 7–4 |
Canlyniad | Rhif. | Blwyddyn | Pencampwriaeth | Gwrthwynebydd yn y ffeinal | Sgôr |
Enillydd | 1. | 1987 | Welsh Amateur Championship | John Herbert | 8–4 |
Enillydd | 2. | 1987 | World Amateur Championship | Joe Grech | 11–4 |
Enillydd | 3. | 2007 | European Amateur Championship - Masters | Kieran McMahon | 6–2 |
Enillydd | 4. | 2007 | World Amateur Championship - Masters | Kanchai Wongjan | 9–1 |
Ail | 1. | 2009 | Welsh Amateur Championship | White, MichaelMichael White | 2–8 |
Enillydd | 5. | 2009 | European Amateur Championship - Masters (2) | Delaney, JoeJoe Delaney | 6–3 |
Enillydd | 6. | 2009 | Bargoed Labour Club Invitational | [3] | |
Enillydd | 7. | 2009 | World Amateur Championship - Masters (2) | O'Kane, DeneDene O'Kane | 6–0 |
Enillydd | 8. | 2010 | European Amateur Championship - Masters (3) | Delaney, JoeJoe Delaney | 6–0 |
Enillydd | 9. | 2012 | European Amateur Championship - Masters (4) | Steve Judd | 6–0 |
Enillydd | 10. | 2012 | World Amateur Championship - Masters (3) | Wilkinson, GlenGlen Wilkinson | 6–2 |
Enillydd | 11. | 2013 | European Amateur Championship - Masters (5) | Alan Trigg | 6–3 |
Ail | 2. | 2014 | World Amateur Championship - Masters | Phisit Chandsri | 5–6 |
Enillydd | 12. | 2015 | Welsh Amateur Championship (2) | Wells, DanielDaniel Wells | 8–0 |
Enillydd | 13. | 2015 | European Amateur Championship - Masters (6) | Jamie Bodle | 6–2 |
Ail | 3. | 2016 | Welsh Amateur Championship (2) | John, DavidDavid John | 7–8 |
Enillydd | 14. | 2017 | European Snooker Open | Judge, MichaelMichael Judge | 4–1 |
Enillydd | 15. | 2017 | European Amateur Championship - Masters (7) | Elfed Evans | 6–2 |