David Amess | |
---|---|
![]() Portread swyddogol Syr David Amess (2020) | |
Ganwyd | 26 Mawrth 1952 ![]() Plaistow ![]() |
Bu farw | 15 Hydref 2021 ![]() o clwyf drwy stabio ![]() Leigh-on-Sea ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd ![]() |
Swydd | Aelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 55 y Deyrnas Unedig, Aelod o 54ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 53ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 52ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 51ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 50fed Llywodraeth y DU, Aelod o 49fed Llywodraeth y DU, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig ![]() |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol ![]() |
Plant | Katie Amess ![]() |
Gwobr/au | Marchog Faglor ![]() |
Gwefan | https://www.davidamess.co.uk/ ![]() |
Gwleidydd o Loegr o'r Blaid Geidwadol oedd Syr David Anthony Andrew Amess (26 Mawrth 1952 – 15 Hydref 2021) a fu'n Aelod Seneddol dros Orllewin Southend o etholiad Mai 1997 hyd at ei lofruddiaeth yn Hydref 2021. Cyn hynny, gwasanaethodd yn Aelod Seneddol dros etholaeth Basildon o Fehefin 1983 i Ebrill 1997.
Ganed ef yn Plaistow, Dwyrain Llundain, i deulu dosbarth-gweithiol, a chafodd ei fagu'n Gatholig Rhufeinig. Mynychodd Ysgol Plant Iau St Antony yn Forest Gate ac Ysgol Ramadeg St Bonaventure yn Newham. Derbyniodd radd mewn economeg a llywodraeth o Goleg Technoleg Bournemouth.[1]
Daeth i Dŷ'r Cyffredin yn y 1980au fel Thatcheriad rhonc. Ymgyrchodd dros les anifeiliaid, ac yn wahanol i nifer o'i gyd-Geidwadwyr fe wrthwynebodd hela llwynogod ac ysgyfarnogod. Cyflwynodd sawl gwelliant deddfwriaethol a mesur preifat, gan gynnwys y Ddeddf Amddiffyn yn erbyn Rhwymo Creulon (1988) a'r Ddeddf Cartrefi Cynnes a Chadwraeth Ynni (2000). Bu'n Ewropsgeptigwr ac yn gefnogwr brwd dros Brexit yn ystod refferendwm y Deyrnas Unedig ar aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd yn 2016.
Ar 15 Hydref 2021 cafodd Amess ei drywanu sawl gwaith tra'n cynnal cyfarfodydd â'r etholwyr mewn eglwys yn Leigh-on-Sea, ac yno bu farw. Arestiwyd dinesydd Prydeinig, o dras Somaliaidd, ar gyhuddiad o lofruddiaeth, a fe'i cedwir yn y ddalfa dan rymoedd y Ddeddf Terfysgaeth.[2]