David Hughes Parry | |
---|---|
Ganwyd | 3 Ionawr 1893 Llanaelhaearn |
Bu farw | 8 Ionawr 1973 |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Cymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, swyddog |
Swydd | llywydd corfforaeth |
Cyflogwr |
Cyfreithiwr a gweinyddwr prifysgol oedd Syr David Hughes Parry (3 Ionawr 1893 – 8 Ionawr 1973). Roedd yn Athro yn y Gyfraith ac yn Is-Ganghellor Prifysgol Llundain rhwng 1945 a 1948. Ef hefyd oedd sylfaenydd Sefydliad Uwchefrydiau Cyfreithiol y brifysgol ym 1947.
Fe'i ganed ar 3 Ionawr 1893, yn ail blentyn a mab hynaf i John Hughes Parry, ffermwr, a'i wraig Anne, yn Uwchlaw'r-ffynnon, Llanaelhaearn, Gwynedd. Astudiodd economeg a'r gyfraith yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a graddio mewn economeg gyda dosbarth cyntaf ym 1914. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf listiodd fel milwr cyffredin gyda'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig; fe'i dyrchafwyd yn is-gapten yn ddiweddarach. Gwasanaethodd gyda'r gatrawd yn ffosydd Ffrainc, lle cafodd anafiadau a'i plagiodd weddill ei oes. Ar ôl y Rhyfel, astudiodd y gyfraith yng ngholeg Peterhouse, Caergrawnt. Ym 1922 fe'i galwyd i Far y Deml Fewnol. Ond yn hytrach na thrin y gyfraith yn y llysoedd aeth i'r byd academaidd, a bu'n ddarlithydd yn adran y gyfraith yn Aberystwyth ac wedyn yn Ysgol Economeg Llundain, lle y daeth yn athro cadeiriol 1930. Ym Mhrifysgol Llundain, daliodd lawer o swyddi pwysig gan gynnwys yr is-ganghellor (1945–8) a chadeiryddiaeth y llys (1962–70).
Ym 1923, priododd Haf, unig ferch Syr Owen Morgan Edwards a'i wraig Ellen.
Cadeiriodd Hughes Parry bwyllgor a gyhoeddodd Arolwg a gomisiynwyd gan Lywodraeth y DU dan bwysau rhwng 1963 ac 1965, gan Gymry amlwg a Chymdeithas yr Iaith i ymchwilio i statws yr iaith Gymraeg yng Nghymru.[1] Roedd y Ddeddf yn seiliedig ar 'Arolwg Hughes-Parry'. Cyhoeddwyd yr Arolwg yn 1965. Argymhellodd statws cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig, yn llysoedd Cymru ac adrannau gweinyddol y wlad. Fodd bynnag gwrthododd y llywodraeth Brydeinig nifer o'i argymhellion pwysig ac roedd y Ddeddf yn adlewyrchiad gwan o'r Arolwg ei hun.