Y Gwir Anrhydeddus David Jones MP | |
---|---|
Gweinidog Gwladol yn yr Adran Dros Adael yr Undeb Ewropeaidd | |
Yn ei swydd 17 Gorffennaf 2016 – 12 Mehefin 2017 | |
Prif Weinidog | Theresa May |
Ysgrifennydd Gwladol Cymru | |
Yn ei swydd 4 Medi 2012 – 14 Gorffennaf 2014 | |
Prif Weinidog | David Cameron |
Rhagflaenydd | Cheryl Gillan |
Olynydd | Stephen Crabb |
Aelod Seneddol dros Gorllewin Clwyd | |
Yn ei swydd | |
Dechrau 5 Mai 2005 | |
Rhagflaenydd | Gareth Thomas |
Mwyafrif | 3,437 (8.5%) |
Aelod Cynulliad dros Ogledd Cymru | |
Yn ei swydd 10 Medi 2002 – 1 Mai 2003 | |
Rhagflaenydd | Rod Richards |
Manylion personol | |
Ganwyd | Llundain | 22 Mawrth 1952
Plaid wleidyddol | Ceidwadol |
Gŵr neu wraig | Sara Jones |
Alma mater | Coleg Prifysgol Llundain |
Crefydd | Anglicaniaeth[1] |
Gwefan | Gwefan swyddogol |
Mae David Jones (ganwyd 22 Mawrth 1952) yn wleidydd Cymreig ac yn aelod o'r Blaid Ceidwadol. Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Gorllewin Clwyd yn Etholiad Cyffredin 2005, gyda mwyafrif o dim ond 133 pleidlais, ac ei ailethol yn 2010 a 2015 gyda mwyafrif o fwy na 6000 bob tro. Yn etholiad brys 2017 hanerwyd ei fwyafrif wrth i'r Blaid Lafur gynyddu eu pleidlais yn sylweddol (14%).
Safodd David Jones i fod yn Aelod Seneddol ar ddwy achlysur cyn iddo gael ei ethol yng Ngorllewin Clwyd. Methodd a chipio sedd Conwy yn 1997 a Dinas Caer yn 2001. Yn 2002, cymerodd David Jones lle Rod Richards yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, yn dilyn ymddiswyddiad Mr Richards. Nid oedd gan Mr Jones unrhyw fwriad i barhau fel Aelod Cynulliad ac ni safodd yn etholaethau'r Cynulliad yn 2003. Wedi ei ethol fel Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd, cafodd David Jones hefyd le ar y Pwyllgor Materion Cymreig yn 2005.
Roedd David Jones yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru o 4 Medi 2012 hyd at gael ei ddiswyddo ar 14 Gorffennaf 2014, pan gafodd ei olynu gan Stephen Crabb.[2][3] Yn ei amser fel arweinydd y Swyddfa Gymreig, gweithiodd i sicrhau bod carchar ar gyfer dros 2,000 o ddynion - yr ail mwyaf yn Ewrop - yn cael ei adeiladu ar gyrion Wrecsam a bod atomfa ynni niwclear newydd yn cael ei godi ar Ynys Môn.[4]