Dawn French | |
---|---|
Llais | Dawn french bbc radio4 desert island discs 23 12 2012.flac |
Ganwyd | 11 Hydref 1957 Caergybi |
Man preswyl | Fowey |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, nofelydd, ysgrifennwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor, cyflwynydd teledu |
Adnabyddus am | The Magician's Elephant |
Priod | Mark Bignell, Lenny Henry |
Digrifwr, sgriptiwr ac actores Seisnig yw Dawn French (ganwyd 11 Hydref 1957). Mae'n nodedig am y gyfres French and Saunders, ar y cyd gyda'i phartner Jennifer Saunders. Bu hefyd yn chwarae rol Geraldine Granger yn y gyfres gomedi The Vicar of Dibley.[1]
Cafodd ei henwebu saith gwaith am wobr y British Academy Television Awards ac enillodd y BAFTA Fellowship, gyda Jennifer Saunders. Gwrthododd dderbyn OBE yn 2001.
Fe'i ganwyd yng Nghaergybi pan oedd ei thad yn Yr Awyrlu Brenhinol ac wedi ei leoli yn RAF y Fali. O Loegr y daeth ei rhieni, Denys Vernon French (5 Awst 1932 – 11 Medi 1977)[2] a Felicity Roma French (née O'Brien),[3] a briodwyd yn Plymouth yn 1953. Derbyniodd ei haddysg yn ysgol breifat St Dunstan's Abbey School (Plymouth College heddiw). Mae ganddi frawd, Gary (g. 1955). Yr RAF a dalodd yn rhannol am ei haddysg breifat.[4]