Degannwy

Deganwy
Mathtref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.3°N 3.8°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH779791 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/au y DUClaire Hughes (Llafur)
Map

Tref fechan yng nghymuned Conwy, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Deganwy[1][2] neu Degannwy (llurguniad: Deganway). Gorwedd i'r de o dref Llandudno, ac i'r dwyrain o dref Conwy, sydd gyferbyn iddi ar ochr arall Afon Conwy. Mae yno orsaf ar y rheilffordd sy'n rhedeg rhwng Llandudno a Chyffordd Llandudno, tua milltir i'r de. O ran llywodraeth leol, mae'n rhan o gymuned Conwy.

Rhan o dref Deganwy, gyda "Chored Maelgwn" (bellach Deganwy Quay) a'i farina. Saif tref Conwy tros yr afon.

Yr enw

[golygu | golygu cod]

Ceir mwy nag un cais i esbonio'r enw. Un posibilrwydd yw ei fod yn deillio o enw'r Deceangli, un o lwythau Celtaidd Cymru. Mae Ifor Williams yn dadlau fod yr -wy terfynol yn cynrychioli gwy sy'n golygu 'ystum, tro,' ac sy'n elfen gyffredin mewn enwau lleoedd (e.e. afon Elwy). Degannwy yw'r ffurf safonol a chynharaf, ond gwelir Deganwy yn aml hefyd. Clywir y ffurf Deganwa ar lafar weithiau, ac efallai taw hynny sy'n gyfrifol am y ffurf Seisnigaidd gyffredin Deganway.[3]

Yr hen enw ar "Deganwy Quay", yr hen harbwr ble saif gwesty newydd o'r un enw ydy Cored Maelgwn;[4] pysgodfa neb llai na’r brenin Maelgwn Gwynedd yn y 6g.

Castell Degannwy gyda rhan o'r dref ac afon Conwy

Mae'n fwyaf nodedig am Gastell Degannwy, a oedd yn y 6g yn gadarnle Maelgwn Gwynedd, brenin Gwynedd. Ymddengys mai Deganwy oedd safle prif lys Gwynedd yr adeg yma, ond yn ddiweddarach symudodd i Aberffraw ar Ynys Môn. Dyma un o brif ganolfannau Cantref Rhos. Adeiladwyd nifer o gaerau ar y bryn lle saif y castell dros y canrifoedd, gan gynnwys castell Normanaidd yn 1082, oedd yn perthyn i Robert o Ruddlan. Yn ddiweddarach adeiladwyd castell yno gan Llywelyn Fawr. Chwalwyd y castell yma, a defnyddiwyd llawer o'r meini i adeiladu Castell Conwy.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Enwau Lleoedd Safonol Cymru" Archifwyd 2023-03-30 yn y Peiriant Wayback, Comisiynydd y Gymraeg; adalwyd 3 Medi 2023
  2. British Place Names; adalwyd 20 Tachwedd 2021
  3. Ifor Williams, Enwau Lleoedd.
  4. Gwefan Llên Natur Archifwyd 2016-03-14 yn y Peiriant Wayback; awdur: Ieuan Wyn; adalwyd 07/12/2012