Delme Bryn-Jones | |
---|---|
Ganwyd | Delme Jones ![]() 29 Mawrth 1934 ![]() Brynaman ![]() |
Bu farw | 25 Mai 2001 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr opera ![]() |
Arddull | opera ![]() |
Math o lais | bariton ![]() |
Bariton o Gymru oedd Delme Bryn-Jones (ganwyd Delme Jones; 29 Mawrth 1934 – 25 Mai 2001).
Ganwyd Delme Jones ym Mrynaman, Sir Gaerfyrddin yn 1934.[1] Fe'i addysgwyd yn Ysgol Gynradd Brynaman a'n hwyrach yng Ngholeg Technegol Rhydaman.[2]
Yn weithiwr glo yn wreiddiol, gadawodd ei waith a'r cyfle i gael gyrfa ym myd rygbi, ble roedd yn chwarae'n rhyngwladol dan-21, i astudio cerddoriaeth. Astudiodd gyda Redvers Llewellyn ac yna yn y Guildhall School of Music and Drama ac yna aeth i'r Vienna Music Academy. Fel canwr proffesiynol cymerodd yr enw proffesiynol, "Bryn-Jones" (Bryn o'i fro enedigol). Perfformiodd yn broffesiynol am y tro cyntaf yn 1959 yn Theatr Sadler's Wells.
Nid oedd siwrne Bryn-Jones i dai opera mawr y byd yn un confensiynol, gan iddo gyd-ddigwydd ag oes aur y byd opera Cymraeg. Bu'n perfformio gyda chwmniau opera mawr fel a ganlyn: Am y tro cyntaf gyda'r New Opera Company yn 1959 (The Sofa Maconchy). Cymerodd ran Macbeth gyda Gwyneth Jones gyda'r Cwmni Opera Cymreig yn 1963 tra hefyd yn perfformio am y tro cyntaf gyda Glyndebourne fel Nick yn The Rake's Progress. Gwnaeth ei berfformiad cyntaf yn Y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden yn 1963 ac yna eto yn 1965 gan ganu Paolo gyda Tito Gobbi yn chwarae rhan Boccanegra a blwyddyn yn ddiweddarach canodd ran Marcello yn opera Puccini La Boheme. Perfformiodd am y tro cyntaf yn yr Unol Daleithiau yn 1967 yn y San Francisco Opera fel Lescaut yn Manon a Donner yn Das Rheingold. Clywodd y Vienna State Opera amdano am y tro cyntaf yn 1969 fel Renato yn Un Ballo in Maschera gan Verdi.
Bu'n ymladd alcoholiaeth yn breifat. Yn ei flynyddoedd olaf, daeth yn Lywydd Cor Meibion Rushmoor Oddfellows o Aldershot, Hampshire, ac yn y flwyddyn 2000 mwynhaodd glodydd mawr am gyfres o ddosbarthiadau meistri a datganiadau radio yng Nghanada. Ymddangosodd Jones ar y teledu ac ar y radio gannoedd o weithiau yn cynnwys nifer o gyfresi teledu ei hunan, megis Y Gelli Aur (The Golden Grove; BBC Wales) a Delme (S4C). Bu'n actio hefyd, gan ymddangos fel Captain Cat yn Under Milk Wood, a Blind Dick Llewellyn yng nghynhyrchiad y BBC o Off to Philadelphia in the Morning gan Jack Jones.