Enghraifft o'r canlynol | demograffeg gwlad neu ranbarth |
---|---|
Math | demograffeg Affrica |
Lleoliad | Botswana |
Gwladwriaeth | Botswana |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ôl Adran Materion Economaidd a Chymdeithasol y Cenhedloedd Unedig, roedd poblogaeth Botswana tua 2,007,000 yn 2010 gyda dwysedd poblogaeth o 3/km².[1]
Mae tua 79% o'r boblogaeth yn Tswana, 11% yn Kalanga, 3% yn Basarwa (Llwynwyr), ac mae'r gweddill yn cynnwys Kgalagadi a Botswanaid Gwynion.[2]
Yn ôl cyfrifiad 2001, mae 78.2% yn siarad yr iaith Tswana, 7.9% yn medru'r Kalanga, 2.8% yn medru'r Sekgalagadi, 2.1% yn siaradwyr Saesneg, 8.6% yn siarad iaith arall, a 0.4% heb ddynodi eu hiaith.[2]
Yn ôl cyfrifiad 2001 mae 71.6% o'r boblogaeth yn Gristnogion, 6% yn Badimo, 1.4% yn ddilynwyr crefydd arall, 0.4% heb ddynodi eu crefydd, a 20.6% heb grefydd.[2]
Mae gan Fotswana cyfradd uchel o HIV/AIDS. Amcangyfrifir bod 320,000 o bobl (24.8% o oedolion) yn byw gydag HIV/AIDS yn 2009, a bod 5,800 o farwolaethau o ganlyniad i AIDS y flwyddyn honno.[2]