Poster y ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Mick Jackson |
Cynhyrchydd | Gary Foster Russ Krasnoff |
Ysgrifennwr | Sgript gan: David Hare Seiliedig ar: History on Trial: My Day in Court with a Holocaust Denier gan Deborah Lipstadt |
Serennu | Rachel Weisz Tom Wilkinson Timothy Spall Andrew Scott Jack Lowden Caren Pistorius Alex Jennings |
Cerddoriaeth | Howard Shore |
Sinematograffeg | Haris Zambarloukos |
Golygydd | Justine Wright |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Krasnoff/Foster Entertainment Shoebox Films Participant Medi BBC Films |
Dyddiad rhyddhau | 11 Medi, 2016 (Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto) 30 Medi, 2016 (Yr Unol Daleithiau) 27 Ionawr, 2017 (Y Deyrnas Unedig) |
Amser rhedeg | 110 munud[1] |
Gwlad | Y Deyrnas Unedig Yr Unol Daleithiau |
Iaith | Saesneg |
Mae Denial yn ffilm ddrama hanesyddol Brydeinig-Americanaidd 2016 a gyfarwyddwyd gan Mick Jackson ac ysgrifennwyd gan David Hare, fe'i seiliwyd ar lyfr Deborah Lipstadt History on Trial: My Day in Court with a Holocaust Denier. Dramateiddia'r ffilm yr achos Irving yn erbyn Penguin Books Ltd, lle erlynwyd Lipstadt, ysgolhaig yr Holocost, gan wadwr yr Holocost David Irving am enllib. Serenna Rachel Weisz, Tom Wilkinson, Timothy Spall, Andrew Scott, Jack Lowden, Caren Pistorius ac Alex Jennings.
Ymddangoswyd Denial yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Toronto ar 11 Medi 2016.[2] Fe'i rhyddhawyd mewn sinemâu yn yr Unol Daleithiau gan Bleecker Street ar 30 Medi 2016[3] ac yn y Deyrnas Unedig gan Entertainment One ar 27 Ionawr 2017.