Der kaukasische Kreidekreis

[am sawl cyfieithiad Cymraeg o'r ddrama, gweler Y Cylch Sialc ]

Der kaukasische Kreidekreis
AwdurBertolt Brecht
Perfformiad cyntaf1948
Iaith gwreiddiolAlmaeneg
TestynDod yn riant, rhyfel, eiddo
GenreTheatr Epig

Drama Almaeneg yw Der kaukasische Kreidekreis gan y dramodydd modernaidd o'r Almaen, Bertolt Brecht . Mae'r ddrama yn fwy adnabyddus yng Nghymru fel Y Cylch Sialc neu'r cyfieithiad Saesneg The Caucasian Chalk Circle. Dyma enghraifft o theatr epig Brecht, ac mae'r ddrama yn ddameg am ferch werinol sy'n achub babi ac yn dod yn fam well na rhieni biolegol cyfoethog y babi.

Cyfansoddwyd y ddrama ym 1944 tra roedd Brecht yn byw yn yr Unol Daleithiau. Fe'i cyfieithwyd i'r Saesneg gan ei ffrind ac edmygwr, Eric Bentley, a'i berfformiad cyntaf oedd cynhyrchiad myfyrwyr Coleg Carleton, Northfield, Minnesota, ym 1948 . Llwyfannwyd y cynhyrchiad proffesiynol cyntaf yn Theatr Hedgerow, Philadelphia, wedi'i gyfarwyddo gan Bentley ei hun. Cafodd ei dangosiad cyntaf yn yr Almaen gan y Berliner Ensemble ar 7 Hydref, 1954, yn Theatr am Schiffbauerdamm yn Berlin. [1]

Mae Der kaukasische Kreidekreis yn un o weithiau enwocaf Brecht ac yn un o'r dramâu 'Almaeneg' a berfformir amlaf. Ail-weithiad sydd yma o stori fer gynharach Brecht Der Augsburger Kreidekreis. Mae'r ddau yn seiliedig ar y ddrama Tsieineaidd o'r 14eg ganrif The Chalk Circle gan Li Xingdao .

Crynodeb o'r plot

[golygu | golygu cod]

Prolog

[golygu | golygu cod]

Mae Brecht, yn ei arddull gwrth-realaidd nodweddiadol, yn defnyddio'r ddyfais o "ddrama oddi fewn i ddrama". Mae'r ddrama allannol wedi'i gosod yn yr Undeb Sofietaidd tua diwedd yr Ail Ryfel Byd. Mae’n dangos anghydfod rhwng dau gomiwn, comiwn tyfu ffrwythau y 'Collective Fruit Farm Galinsk' a’r 'Collective Goat Farmers', ynghylch pwy fydd yn berchen ac yn rheoli darn o dir fferm ar ôl i’r Natsïaid gilio o bentref a’i adael yn segur. Mae dameg wedi’i threfnu gan un grŵp, sef hen chwedl werin, i’w chyflwyno er mwyn bwrw goleuni ar yr anghydfod. Mae’r Canwr, Arkadi Tcheidse, yn cyrraedd gyda’i griw o gerddorion, ac yn adrodd y ddameg i’r gwerinwyr, sy’n ffurfio’r prif naratif, ac yn cydblethu trwy gydol llawer o’r ddrama. Mae'r Canwr yn aml yn croesawu meddyliau'r cymeriadau, yn cyfoethogi'r golygfeydd mwy dramatig gyda naratif cryfach na deialog syml, ac mae'n gyfrifol am y newidiadau yn y golygfeydd a'r amser. Mae sawl "cerddor" (sy'n ymgorffori cerddoriaeth yn y ddrama) yn helpu'r Canwr i gadw'r ddrama i redeg yn esmwyth. Ar y diwedd dywed y dylai'r tir fynd i'r rhai a fydd yn ei ddefnyddio'n fwyaf cynhyrchiol, y tyfwyr ffrwythau, ac nid y rhai oedd â pherchnogaeth flaenorol.

Golygfa un: Y Plentyn Bonheddig

[golygu | golygu cod]

Mae stori neu gân y Canwr yn dechrau gyda'r Llywodraethwr Georgi Abashwili a'i wraig Natella sy'n anwybyddu'r dinasyddion ar y ffordd i Offeren y Pasg. Mae'r Canwr yn ein cyflwyno i Arsen Kazbeki, y Tywysog Tew, sy'n ymhyfrydu yn y Llywodraethwr a'i wraig, ac yn canmol eu mab Michael am fod yn "lywodraethwr o'i ben i'w sawdl." Maent yn mynd i mewn i'r eglwys, gan adael y werin ar ôl. Yr arwres Grusha Vashnadze, morwyn i wraig y llywodraethwr yw'r nesaf i gael ei chyflwyno. Tra’n cario gŵydd ar gyfer pryd y Pasg, mae Grusha yn cwrdd â milwr, Simon Shashava, sy’n datgelu ei fod wedi ei gwylio’n ymdrochi yn yr afonydd, ond mae Grusha yn mynd oddi yno'n ddig.

Mae'r Canwr yn parhau â'u stori: wrth i'r milwr gyfathrebu â dau bensaer ar gyfer plasty newydd y Llywodraethwr, mae'r milwyr sy'n ymdebygu i'r gestapo, yn troi arno. Mae'r Tywysog Tew [Kazbeki] wedi trefnu gorchest lwyddianus [coup] ac mae bellach yn rheoli. Mae'r Llywodraethwr yn cael ei ddienyddio'n gyflym. Mae'r milwr Simon yn dod o hyd i Grusha ac yn cynnig ei phriodi, gan roi ei groes arian iddi. Mae Grusha'n derbyn. Mae Simon yn dianc i gyflawni ei ddyletswydd i wraig y Llywodraethwr, sydd wedi bod yn ffôl yn pacio dillad ar gyfer y "daith", heb ofalu dim am golli ei gŵr. Mae hi'n cael ei chludo ymaith o'r ddinas Nuhka, sydd bellach ar dân, gan adael ei mab Michael [yn anfwriadol] ar ôl. Gadewir Grusha gyda'r bachgen sydd, ar ôl gweld pen y Llywodraethwr wedi'i hoelio ar ddrws yr eglwys, yn dianc ag ef i'r mynyddoedd. Mae cerddoriaeth yn cael ei ymgorffori trwy lawer o'r olygfa hon gyda chymorth y Canwr, y cerddorion, ac o bosibl Grusha, gan fod Brecht yn cynnwys "caneuon" yn y testun.

Golygfeydd dau a thri: Dianc i Fynyddoedd y Gogledd / Yn y Mynyddoedd Gogleddol

[golygu | golygu cod]

Mae'r Canwr yn cychwyn yr olygfa gyda naws o ddianc. Ar ddechrau’r act hon gwelir Grusha yn ceisio dianc ond yn gorfod aros i gael llaeth i’r babi, Michael, ac yn cael ei gorfodi i brynu llefrith sy'n ddrud gan hen ŵr yn honni bod ei eifr wedi cael eu cymryd ymaith gan y milwyr. Mae'r cyfarfyddiad hwn yn ei harafu ac mae'r milwyr yn ei dilyn yn agos. Mae Grusha'n dod o hyd i gartref i Michael aros ynddo. Gan ei adael ar garreg y drws, caiff ei fabwysiadu gan ddynes werinol. Mae gan Grusha emosiynau cymysg am hyn, sy’n newid pan fydd hi’n cwrdd â Chorporal a milwyr gwyrdroëdig sy’n chwilio am y plentyn. Mae'r corporal yn amau Grusha, ac mae hithau yn cael ei gorfodi i ymosod arno, er mwyn achub Michael. Mae hi'n encilio'n flinedig i fferm fynydd ei brawd Lavrenti, sy'n ffugio stori i'w wraig genfigennus Aniko, gan honni mai Michael Abashwili yw plentyn Grusha a'i bod hi ar ei ffordd i ddod o hyd i fferm y tad.

Oherwydd i Grusha gael ei llethu gan y clefyd goch [scarlet fever] mae hi'n gorfod aros yno am gryn amser. Lledodd sibrydion yn y pentref, ac mae Lavrenti yn argyhoeddi Grusha mai gwell iddi briodi'r gwerinwr Jussup, sydd ar fin marw, er mwyn eu tawelu. Mae hi'n cytuno'n anfoddog. Mae gwesteion yn cyrraedd i'r briodas-angladdol, gan gynnwys y Canwr a cherddorion, sy'n gweithredu fel y cerddorion cyflogedig ar gyfer y digwyddiad, ac yn hel clecs yn ddiddiwedd. Datgelir bod y Uwch Ddug wedi trechu'r tywysogion a bod y rhyfel cartref wedi dod i ben, ac ni ellir drafftio unrhyw filwr bellach. O glywed hyn, pentrefwr Jussup oedd ar fin marw, yn codi'n llawn bywyd, a daw'n amlwg mai ffugio ei salwch ydoedd, i osgoi mynd i Ryfel. Mae Grusha bellach yn briod, ac mae ei gŵr newydd yn awyddus i gyflawni'r briodas drwy gyfathrach rywiol, ond mae Grusha'n gwrthod.

Aiff blynyddoedd heibio, cyn i Simon ddod o hyd i Grusha wrth iddi olchi dillad yn yr afon. Maen nhw'n ail-danio eu cyfeillgarwch gariadus, ac mae Simon yn gofyn iddi'n gellweirus a ddaeth hi o hyd i ddyn arall. Mae Grusha'n chael hi'n anodd cyfaddef ei bod wedi gorfod priodi, nes i Simon weld Michael. Adroddir yr olygfa ganlynol rhwng y ddau, yn benaf, gan y Canwr, yr hwn sydd i fod i lefaru ar ran y ddau gymeriad. Fodd bynnag, mae'r milwyr yn cyrraedd gan gludo Michael yno, ac yn gofyn i Grusha ai hi yw ei fam? Mae hithau'n gorfod cyfaddef, ac mae Simon yn gadael mewn trallod. Mae Gwraig y Llywodraethwr eisiau'r plentyn yn ei ôl a rhaid i Grusha ddychwelyd i'r llys yn Nukha. Gorffenir yr Act gan y canwr sydd yn cwestiynnu dyfodol Grusha, ac yn datgelu bod stori arall y mae'n rhaid i ni ei dysgu: stori Azdak. Os defnyddir egwyl, dyma lle mae'n cael ei osod yn gyffredinol.

Golygfa pedwar: Stori'r Barnwr

[golygu | golygu cod]

Mae'r olygfa'n cychwyn fel pe bai drama gwbl wahanol yn cael ei lwyfannu, ac eto wedi'i gosod o fewn yr un lleoliad rhyfel â'r dechrau. Mae'r Canwr yn cyflwyno arwr arall o'r enw Azdak. Mae Azdak yn cysgodi "gwerinwr" ac yn ei amddiffyn rhag awdurdodau trwy arddangos ei resymeg astrus. Sylweddola'n ddiweddarach ei fod wedi rhoi lloches i'r Dug ei hun; gan iddo gamddeall bwriad y gwrthryfel. Mae o'n cyfaddef wrth yr awdurdoadau ei fod o'n "frawdr". Ond nid yw'r gwrthryfel yn un poblogaidd - mae'r tywysogion eu hunain yn ceisio atal gwrthryfel sy'n digwydd o ganlyniad i'w llinach eu hunain - ac mae Azdak yn ymwrthod â'i syniadau chwyldroadol i gadw'r milwyr rhag ei ladd fel radical.

Cyrhaedda'r Tywysog Teg gan geisio sicrhau cefnogaeth y milwyr i ddyrchafu ei nai yn farnwr newydd. Mae Azdak yn awgrymu eu bod yn cynnal achos llys ffug i'w brofi; mae'r Tywysog Tew yn cytuno. Mae Azdak yn portreadu'r cyhuddedig yn yr achos llys - yr Uwch Ddug. Mae'n gwneud sawl ymysodiad pigog llwyddiannus iawn yn erbyn drwgweithredu'r Tywysogion, ac yn difyrru'r Milwyr cyn gymaint fel eu bod yn ei benodi ef yn hytrach na nai'r Tywysog Tew: "The judge was always a chancer; now let a chancer be the judge!"

Mae Azdak yn parhau i fod yn farnwr. Mae'n defnyddio llyfr cyfraith mawr fel clustog i eistedd arno. Cyfres o olygfeydd byrion a ganlyn, yn gymysg â "chân" y Canwr, sy'n barnu o blaid y lladron tlawd, y gorthrymedig, a'r da o galon; mewn un cyfres o achosion lle mae'r holl achwynwyr a'r sawl a gyhuddir yn llygredig, mae'n cymeradwyo cyfres ddisynnwyr o farnau. Ond nid yw'n para am byth; mae'r Uwch Ddug yn dychwelyd i rym, mae'r Tywysog Tew yn cael ei ddienyddio, ac mae Azdak ar fin ei grogi gan y milwyr yr Uwch Ddug pan ddaw pardwn i benodi "a certain Azdak of Nuka" yn farnwr fel gwerthfawrogiad o'i allu i "saving a life essential to the realm". Nid yw gwraig y rhaglaw a gafodd ei ddienyddio ar gychwyn y ddrama yn ei hoffi, ond mae'n penderfynu y bydd ei angen ar gyfer yr achos llys lle bydd yn adennill ei mab gan Grusha. Mae'r Act yn dod i ben gydag Azdak yn ofni am ei fywyd, gan addo i adfer Michael i wraig y Llywodraethwr, a chytuno i weithredu yn ôl ei gorchymyn. "It will all be arranged as you order, your Excellency. As you order."

Golygfa pump: Y Cylch Sialc

[golygu | golygu cod]

Dychwelwn at stori Grusha. Rydyn ni'n cwrdd â Grusha yn y llys, gyda chefnogaeth cyn gogydd y Llywodraethwr a Simon Shashava, fydd yn tyngu llw ei fod yn dad i'r bachgen. Daw Natella Abashvili i mewn gyda dau gyfreithiwr, gan dawelu ei meddwl y bydd popeth yn dda. Mae Azdak yn cael ei guro gan y milwyr, gan ddatgan wrtho ei fod yn elyn i'r wladwriaeth. Daw marchog i mewn gan gyhoeddi bod yr Uwch Ddug wedi ailbenodi Azdak yn farnwr. Mae Azdak yn cael ei lanhau ac mae'r achos llys yn dechrau. Nid yw'r achos, fodd bynnag, yn dechrau gyda Grusha a gwraig y Llywodraethwr, ond gyda phâr priod oedrannus sy'n dymuno ysgaru. Nid yw Azdak yn gallu gwneud penderfyniad ar yr achos hwn, felly mae'n ei roi o'r neilltu i glywed yr achos nesaf.

Daw'r erlyniad ymlaen gan geisio llwgrwobrwyo Azdak yn y gobaith o newid y dyfarniad. Datgelir mai bwriad Natella o ail-berchnogi ei mab yw etifeddu holl ystâd a chyllid y Llywodraethwr sydd ynghlwm wrth yr etifedd. Nid yw amddiffyn Grusha yn cael ei gyfleu'n llwyddiannus, gan ymddangos fel bod hi a Simon yn sarhau Azdak am gymryd llwgrwobrwyon. Mae Azdak yn eu dirwyo am hyn ond, ar ôl ystyried, mae'n honni na all ganfod y gwir fam. Mae'n penderfynu dyfeisio prawf. Tynnir cylch o sialc, a gosodir Michael yn y canol. Bydd y gwir fam, yn ôl Azdak, yn gallu tynnu'r plentyn o'r canol. Os bydd y ddau yn tynnu, byddant yn rhwygo'r plentyn yn ei hanner ac yn cael hanner yr un. Mae'r prawf yn dechrau ond (yn debyg i Farn Solomon) mae Grusha'n gwrthod tynnu gan na all hi ddioddef brifo Michael. Mae Azdak yn rhoi un cyfle arall iddi, ond eto ni all dynnu Michael. Yn ystod y cyfyng-gyngor hwn, mae cân ingol yn cael ei chanu gan y Canwr fel adlewyrchiad o feddyliau Grusha tuag at Michael. Ni all y lleill ar y llwyfan glywed hyn, ond maent yn teimlo'r emosiwn llethol trwy Grusha. Mae Azdak yn datgan mai Grusha yw'r gwir fam, gan ei bod hi'n caru Michael yn ormodol i allu ei frifo. Dywedir wrth wraig y Llywodraethwr bydd yr ystadau yn cael eu rhoi yng ngofal y ddinas a'u gwneud yn erddi i blant o'r enw "Gardd Azdak". Mae Simon yn talu ei ddirwy i Azdak. Mae Azdak yn dweud wrth yr hen gwpl y bydd yn cytuno i'r ysgariad, ond "yn ddamweiniol" mae'n ysgaru Grusha a'r gwerinwr, gan ei gadael yn rhydd i briodi Simon. Mae pawb yn dawnsio yn hapus wrth i Azdak ddiflannu. Mae'r Canwr yn sôn am ddoethineb Azdak ac yn nodi bod pawb wedi cael yr hyn roedden nhw'n ei haeddu yn y diwedd.

Cerddoriaeth

[golygu | golygu cod]

Cyfansoddodd Brecht nifer o 'ganeuon' fel rhan o'r darn, a gelwir un o'i brif gymeriadau yn Y Canwr. Ym 1944 cyfansoddwyd y gerddoriaeth gan Paul Dessau . Er nad oes sgôr wedi'i chyhoeddi'n swyddogol, mae'r sioe yn cael ei chyflwyno'n arferol gyda'r gerddoriaeth wreiddiol a chaneuon a berfformir gan y cast. Mae llawer o gyfansoddwyr wedi creu sgorau gwreiddiol unigryw ar gyfer The Caucasian Chalk Circle . Un sgôr a berfformir yn rheolaidd yw o waith y cyfansoddwr Americanaidd Mark Nichols, a seiliodd ei gerddoriaeth ar harmonïau gwerin Sioraidd traddodiadol mewn polyffoni. Gwnaeth y cyfansoddwr Sioraidd Giya Kancheli sgôr eiconig ar gyfer cynhyrchiad Rustaveli Theatre yn Tbilisi.

Sylwadau

[golygu | golygu cod]

Newidiodd Brecht gam tyngedfennol o'r ddrama Tsieineaidd a oedd yn ffynhonnell iddo. Ynddo, mam geni'r plentyn sy'n gollwng gafael yn y cylch, ac yn ennill gwarchodaeth y plentyn. Yn agos at ddiwedd y prolog, dywed y Canwr mai hen stori o darddiad Tsieineaidd yw hon, ond gydag ail-ddehongliad cyfoes.

Mae'r ddrama wedi'i gosod yn Georgia yn y Cawcasws, er ei bod hi'n cael ei disgrifio fel "Grusinia" (enw o amrywiad Rwsiaidd) yn y brif ddrama. Mae enwau Sioraidd ar y rhan fwyaf o’r cymeriadau, a sonnir am Tiflis a’r bardd Mayakovsky yn y prolog. [2] Fodd bynnag mae'r ddinas lle mae llawer o'r gweithredu yn digwydd, Nuka, yn yr Azerbaijan gyfoes, er ei bod o dan reolaeth Sioraidd am gyfnod yn yr Oesoedd Canol. Mae yna hefyd elfennau Iranaidd yn y ddrama, gan gynnwys enw'r cymeriad Azdak, sy'n honni ei fod yn hannu oddi yno. [3]

Nid bwriad Brecht oedd i'r ddrama fod yn bortread realistig o Georgia gyfoes neu ganoloesol. Hyd yn oed yn yr Undeb Sofietaidd, roedd rhai pobl yn ei dehongli fel drama mwy Almaeneg na Rwsiaidd neu Sioraidd, a nododd nad oedd yn portreadu'n gywir y gweithdrefnau gwneud penderfyniadau mewn amaethyddiaeth Sofietaidd . [4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Squiers, Anthony (2014). An Introduction to the Social and Political Philosophy of Bertolt Brecht: Revolution and Aesthetics. Amsterdam: Rodopi. t. 190. ISBN 9789042038998.
  2. Mayakovsky and Brecht himself were both accused of "formalism" in the Soviet Union at times.
  3. Brough, Neil; Kavanagh, R. J. (1991). "But who is Azdak? The main source of Brecht's Der kaukasische Kreidekreis". Neophilologus 75 (4): 573–580. doi:10.1007/BF00209897.
  4. Introduction to Penguin Modern Classics version

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]