Derek Underwood

Derek Underwood
Ganwyd8 Mehefin 1945 Edit this on Wikidata
Bromley Edit this on Wikidata
Bu farw15 Ebrill 2024 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Alma mater
  • Langley Park School for Boys
  • Dulwich Prep London Edit this on Wikidata
Galwedigaethcricedwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auCricedwr y Flwyddyn, Wisden Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auTîm criced cenedlaethol Lloegr, Kent County Cricket Club Edit this on Wikidata

gricedwr o Loegr oedd Derek Leslie Underwood, MBE (8 Mehefin 194515 Ebrill 2024).

Roedd Underwood yn cael ei ystyried yn un o'r bowlwyr gorau mewn criced Prawf trwy lawer o'i yrfa. Cafodd ei lysenw "Deadly", oherwydd roedd batwyr yn ei chael yn anodd ei drechu.

Cafodd Underwood ei eni yn Ysbyty Mamolaeth Bromley, yn fab i Leslie Frank Underwood a' wraig Evelyn Annie Wells.[1] Roedd ei dad yn fowliwr cyflymder canolig braich dde, yn chwarae i Glwb Criced Farnborough.[1] Cafodd Derek ei addysg yn Beckenham ac Ysgol Ramadeg i Fechgyn Penge. Ym 1961 cymerodd bob un o'r deg wiced ar gyfer XI Cyntaf yr ysgol.[1]

Chwaraeodd Underwood griced sirol i Gaint. Daeth y chwaraewr ieuengaf i gipio 100 o wicedi Pencampwriaeth y Siroedd mewn tymor cyntaf.[2][3] Arhosodd yng Nghaint drwy gydol ei yrfa o'r radd flaenaf o 24 mlynedd.[4] Ar ôl ymddeol, daeth yn Llywydd Clwb Criced Marylebone (MCC) yn 2008.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 Crofton, Philip; Bartlett, Kit (2004). Famous Cricketers No 85 – Derek Underwood (yn Saesneg). Association of Cricket Statisticians and Historians. tt. 6–7. ISBN 1-902171-96-9.
  2. Bateman, Colin (1993). If The Cap Fits (yn Saesneg). Tony Williams Publications. t. 173. ISBN 1-869833-21-X.
  3. "Derek Underwood". ESPN. Cyrchwyd 2024-04-15.
  4. "Derek Underwood: England and Kent great dies aged 78". BBC Sport. 2024-04-15. Cyrchwyd 2024-04-15.