Derwen blackjack | |
---|---|
Derwen blackjack yn ystod y gaeaf Cross Timbers Lincoln County, Oklahoma | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Unrecognized taxon (fix): | Fagaceae |
Genus: | Quercus |
Rhywogaeth: | Q. marilandica |
Enw deuenwol | |
Quercus marilandica Muenchh.[3] | |
Delwedd:Dosbarthiad naturiol derwen blackjack map 1.png | |
Dosbarthiad naturiol derwen blackjack Quercus marilandica | |
Cyfystyron[4][5] | |
|
Derwen Blackjack | |
---|---|
Derwen blackjack yn ystod y gaeaf yn Cross Timbers yn Lincoln County, Oklahoma | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Cytrad: | Tracheophytes |
Cytrad: | Angiosperms |
Cytrad: | Eudicots |
Cytrad: | Rosids |
Trefn: | Fagales |
Teulu: | Fagaceae |
Genws: | Quercus |
Is-genws: | Quercus subg. Quercus |
Rhan: | Quercus sect. Lobatae |
Rhywogaeth: | Q. marilandica
|
Enw bionimaidd | |
Quercus marilandica | |
Dosbarthiad cyffredinol naturiol derwen blackjack Quercus marilndica. | |
Cyfystyron | |
|
Derwen fechan yw Quercus marilandica, derwen blackjack, sy'n un o'r grŵp derw coch Quercus sect . Lobatae . Mae'n frodorol i ddwyrain a chanol yr Unol Daleithiau.
Coeden gollddail fechan sy'n tyfu i 15 medr o uchder yw'r Quercus marilandica, gyda rhisgl wedi hollti'n blatiau hirsgwar gyda holltau oren cul. Mae'r dail yn 7-10cm o hyd a llydan, ac yn nodweddiadol yn blaguro o waelod taprog i siâp cloch tri llabedog eang gyda dim ond mewnoliadau bas. Maent yn wyrdd tywyll ac yn sgleiniog uwchben, yn lwyd-wyrdd oddi tannynt, ac yn aml yn aros ynghlwm wrth y brigau trwy'r gaeaf ar ôl troi lliwiau o goch i frown yn yr hydref. Mae'r fesen yn fach,12-20mm hir a10-18mm o lydan; ac fel coed derw coch eraill, mae'n cymryd 18 mis i'r mes aeddfedu.
Gall derw blackjack yn y Cross Timbers, Oklahoma, yr UDA dyfu i uchder o 15-18medr, ond anaml yn cyrraedd mwy na 12medr, gyda diamedr boncyff o 41cm. Mae'r dail o 10-25cm o hyd a thua'r un lled.
|
Gellir dod o hyd i'r dderwen blackjack o Long Island yn Efrog Newydd i Fflorida, i'r gorllewin cyn belled â Thecsas, Oklahoma, a Nebraska . Mae adroddiadau am ychydig o boblogaethau ynysig yn ne Michigan, ond mae'n ymddangos bod y rhain yn cynrychioli cyflwyniadau. [7]
Mae’r rhywogaeth yn tyfu mewn priddoedd gwael, tenau, sych, creigiog neu dywodlyd lle gall ychydig o blanhigion coediog eraill ffynnu, fel arfer ar dir isel, o lefel y môr hyd at tua 850medr. Mae rhai ffynonellau yn dweud nad oes ganddi'r ffurf hardd fel sydd i lawer o goed derw, ond serch hynny mae'n goeden werthfawr ar gyfer tyfu mewn safleoedd problemus. [8] Mae rhai yn dweud bod y goeden yn "anodd ond yn hyll", ond hefyd yn cael ei thanwerthfawrogi. [9] [10] Ar adegau mae'r goeden hyd yn oed wedi cael ei dileu er mwyn darparu lle i goed y tybir eu bod yn fwy gwerthfawr yn fasnachol. [11]
Weithiau mae'n goeden isdyfiant mewn clystyrau pinwydd ar fryniau tywodlyd yn ne-ddwyrain yr Unol Daleithiau. Ar hyd gwastadedd arfordirol New Jersey mae'r tebygolrwydd o ddod o hyd i'r rhywogaeth hon yn cynyddu mewn ardaloedd cymharol heulog, agored fel y rhai ger morfeydd heli arfordirol. Mae'n bodoli'n aml law yn llaw â derw ysgarlad a phost yn ogystal â phinwydd pigfain ; Ymhlith ei chymdeithion isdyfol mae'r Rhus copallinum, rhedynen ungoes, Comptoni peregrinia, a baewydden, a gellir dod o hyd iddynt cyn belled i'r gogledd â rhannau o Ohio [12] ac Efrog Newydd .
Mae amrywiad penodol, sef Quercus marilandica Münchhausen amr. ashei Sudworth, yn tyfu'n rhan mwyaf gorllewinol ei dosbarthiad yng ngogledd Tecsas, Oklahoma, hyd at de Kansas . Yn yr ardal hon, mae blackjack a derw post yn ffurfio ardal lled-safanna sy'n cynnwys stribedi coediog wedi'u cymysgu â llennyrch glaswellt y paith ar hyd ymyl dwyreiniol y Gwastadedd Mawr deheuol. Gelwir y lled-safanna hwn yn y Cross Timbers. [13] [14] [15] Ffurfiau prysgwydd o Q. marilandica sy'n dominyddu ar lawer o lennyrch cornfaen ynghyd â Q.<span typeof="mw:Entity" id="mwdQ"> </span>stellata ar lwyfandir Ozark Arkansas.
Weithiau mae derw blackjack yn croesrywio â derw arth ( Q. ilicifolia ), sy'n ffurfio croesryw a elwir yn Q. × brittonii .
Mae mes blackjack yn darparu bwyd ar gyfer ceirw cynffon wen a thwrci gwyllt . Fodd bynnag, gall blackjacks achosi gwenwyn asid tannig mewn gwartheg.
Mae pren yn ddwys iawn ac mae'n cynhyrchu fflam boeth pan yn llosgi, sydd yn ddefnyddiol dros ben ar gyfer barbeciwiau and stofiau llosg-bren. Beth bynnag,nid yw'r pren yn ddefnyddiol ar gyfer llefydd tân pren oherwydd gall y gwres tanbaid achosi i'r pren dasgu allan gwreichion a all achosi tannau tŷ.[16]
Yn draddodiadol, defnyddir pren blackjack fel tanwydd a phren mwg ar gyfer barbeciw yn Oklahoma .
<ref>
annilys; mae'r enw "iucn status 12 November 2021" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol