Quercus ilicifolia | |
---|---|
Delwedd:Ccoeden Quercus ilicifolia.jpg | |
Derwen yr arth yn Nottingham, Pennsylvania ym Mehefin 2011 | |
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Unrecognized taxon (fix): | Fagaceae |
Genus: | Quercus |
Rhywogaeth: | Q. ilicifolia |
Enw deuenwol | |
Quercus ilicifolia Wangenh. 1787 not Salisb. 1864 nor Koord. & Valeton ex Seemen 1900 | |
Delwedd:Map dosbarthiad Quercus ilicifolia 1.png | |
Dosbarthiad daearyddol Quercus ilicifolia yn ne-ddwyrain yr UDA Northeastern United States (highlighted in green) | |
Cyfystyron[2] | |
Rhestr
|
Quercus ilicifolia | |
---|---|
Derwen yr arth yn Nottingham, talaith Pennsylvania, UDA. | |
Statws cadwriaethol
| |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Cytrad: | Tracheophytes |
Cytrad: | Angiosperms |
Cytrad: | Eudicots |
Cytrad: | Rosids |
Trefn: | Fagales |
Teulu: | Fagaceae |
Genws: | Quercus |
Is-genws: | Quercus subg. Quercus |
Rhan: | Quercus sect. Lobatae |
Rhywogeth: | Q. ilicifolia
|
Enw binomiaidd | |
Quercus ilicifolia Wangenh. 1787 nid Salisb. 1864 nac Koord. & Valeton ex Seemen 1900
| |
Dosbarthiad daearyddol Quercus ilicifolia De-ddwyrain yr Unol Daleithiu (mewn gwyrdd) | |
Cyfystyron[3] | |
Rhestr:
|
Mae Quercus ilicifolia, a adwaenir yn gyffredin fel derw'r arth neu dderwen brysgwydd, yn dderwen fechan sy'n frodorol i Ddwyrain yr Unol Daleithiau ac, yn llai cyffredin, yn ne-ddwyrain Canada . Mae ei amrediad yn yr Unol Daleithiau yn ymestyn o Maine i Ogledd Carolina, gydag adroddiadau am rai poblogaethau i'r gogledd o'r ffin ryngwladol yn Ontario . Ystyr yr enw ilicifolia yw "celyn-dail."
Coeden neu lwyn collddail yw Quercus ilicifolia sy'n tyfu'n achlysurol gan gyrraedd uchder o 6 medr ond fel arfer yn llawer llai. Mae'n ganglys a gall ffurfio dryslwyni trwchus . Mae'r planhigyn yn tyfu o wreiddyn prifwreiddyn mawr, sy'n cyrraedd 20 centimetr o drwch. Mae'r prifwreidd yn byw am amser hir, gan gynhyrchu sawl cenhedlaeth o rannau uwchben y ddaear. Mae'r dail a drefnir bob yn ail hyd at 15cm yr un o hyd a 10 cm mewn lled. Mae'r rhywogaeth yn unanheddol gyda phlanhigion sy'n dwyn gwyddau bach gwrywaidd a blodau benywaidd unigol neu glystyrog. Mae'r fesen wyfurf yn 1-2cm hir gyda chap ffurf soser. Mae'r planhigyn yn atgenhedlu'n rhywiol trwy hadau a hefyd yn lystyfol trwy egino coesynnau newydd. [4] [5]
Mae Quercus ilicifolia yn rywogaeth drechol mewn sawl rhanbrth a chynefin. Yn nhalaith Maine, yng ngogledd-ddwyrain yr UDA fe'i gwelir mewn coedwigoedd collddail ynghyd â'r fasarnen goch (Acer rubrum), bedwen lwyd (Betula populifolia), â'r aethnen (Populus tremuloides). Yn nhalaith Massachusetts, mae'n cyd-drechu â mwyaren y brain du (Gaylussacia baccata) ar frysglwyndiroedd Nantucket a Martha's Vineyard. Yn Cape Cod, mae'r un peth yn digwydd hefo pinwydden galed (Pinus rigida) a banadl y creiglus (Corema conradii). Mae'n gyffredin yn y Pine Barrens yn nhalaith New Jersey and the thiroedd anial pinwydd Long Island yn Nhalaith Efrog Newydd. Fe'i gwelir hefyd ar sychdiroedd anial ar ithfaen a haenithfaen ymhellach i'r gogledd yng Nghanada. Mae Quercus ilicifolia hefyd yn bresennol ym Mhiedmont Gogledd Carolina, yno mae wedi ei osod ar eu rhestr taleithiol o blanhigion mewn perygl.[6]
Mae'n dderwen sydd wedi addasu i aflonyddwch yn y cynefin, fel tannau gwyllt a phori . O ganlyniad, nid yw'n goddef cysgod ac mae angen aflonyddwch i gael gwared ar rywogaethau planhigion eraill fel y gall dderbyn golau'r haul. Mae'n egino'n helaeth ar ôl i dân losgi'r llystyfiant.
Mae Quercus ilicifolia yn darparu bwyd a lloches i lawer o rywogaethau anifeiliaid. Mae eirth yn bwyta'r mes chwerw, [7] yn enwedig wrth baratoi ar gyfer gaeafgysgu . Mae ceirw cynffon wen yn bwyta'r mes a'r coesynnau a'r dail. Mae llawer o fathau o wiwerod yn cuddio'r mes. Mae llawer o adar yn dibynnu arnynt; mae'n well gan dyrcwn gwyllt nhw na mathau eraill o fwyd. Mae nifer fawr o rywogaethau o bryfed yn byw ar y dderwen. Y rhywogaeth dderw hon yw'r prif blanhigyn bwyd ar gyfer 29% o'r Lepidopteriaid prin neu dan fygythiad yn ne Lloegr Newydd a de-ddwyrain Efrog Newydd.
Mae Quercus ilicifolia wedi cael ei ddefnyddio mewn prosiectau aildyfiant ar Safle Tirlenwi Fresh Kills ar Ynys Staten .
<ref>
annilys; mae'r enw "iucn status November 12, 2021" wedi'i ddiffinio droeon gyda chynnwys gwahanol
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw feis
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw fna