Deryn Rees-Jones | |
---|---|
Ganwyd | 7 Mehefin 1968 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Gwobr Eric Gregory |
Bardd Eingl-Gymreig sy'n byw ac yn gweithio yn Lerpwl yw Deryn Rees-Jones (ganwyd 1968).[1] Treuliodd hi lawer o'i phlentyndod yng nghartref y teulu yn Eglwys-bach. Mae hi'n ystyried ei hun yn awdur Cymreig.[2]
Cafodd Rees-Jones ei addysg ym Mhrifysgol Bangor. Gwnaeth hi ymchwil doethurol ar feirdd benywaidd yng Ngholeg Birkbeck, Llundain. Mae hi'n Athro Barddoniaeth ym Mhrifysgol Lerpwl.[3] Enillodd Wobr Eric Gregory yn 1993, a Gwobr Awdur Cyngor Celfyddydau Lloegr ym 1996. Yn 2012 a 2019, roedd Rees-Jones ar restr fer Gwobr TS Eliot am ei "Burying the Wren" ac "Erato".