![]() | |
Math | Ortsteil ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 83,616 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dessau-Roßlau ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 182.81 km² ![]() |
Uwch y môr | 63 metr ![]() |
Gerllaw | Mulde, Afon Elbe ![]() |
Cyfesurynnau | 51.8342°N 12.2461°E ![]() |
Cod post | 06842, 06844, 06846, 06847, 06849, 06861, 06862 ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd ![]() |
Manylion | |
Dinas yn nhalaith Sachsen-Anhalt yn nwyrain canolbarth yr Almaen yw Dessau. Saif ar gydlif Afon Mulde ac Afon Elbe, i'r gogledd-ddwyrain o Halle an der Saale. Codwyd y dref Almaenig ar anheddiad Sorbaidd, ac o 1213 mae'r cofnod cyntaf o Dessau. Trigai cowntiaid, tywysogion, a dugiaid Anhalt yn Dessau o 1603 hyd 1918.[1]
Symudodd y Bauhaus i Dessau o Weimar ym 1925, ac yno bu'r ysgol bensaernïol honno nes i'r Natsïaid ei chau ym 1933. Dynodwyd adeiladau Bauhaus y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO ym 1996, a Gerddi Dessau-Wörlitz cyfagos yn 2000. Ymhlith ei feibion a merched o nod mae'r athronydd Moses Mendelssohn a'r arlunwyr Friederike Julie Lisiewska ac Angelika Tübke.