Trac sain a chân deitl ffilm o'r un enw yw Diamonds Are Forever. Diamonds Are Forever oedd 7fed ffilm James Bond.
Perfformiwyd y gân deitl Diamonds Are Forever gan Shirley Bassey a oedd hefyd wedi perfformio Goldfinger ym 1964. Roedd y cynhyrchydd Harry Saltzman yn casau'r gân, a'r unig reswm y gwnaed y ffilm oedd oherwydd y cyd-gynhyrchydd Cubby Broccoli. Un o brif wrthwynebiadau Saltzman oedd yr awgrymiadau rhywiol a geir yn y gân. Mewn cyfweliad ar gyfer y rhaglen deledu James Bond's Greatest Hits dywedodd y cyfansoddwr John Barry ei fod wedi dweud wrth Bassey i ddychmygu ei bod yn canu am bidyn.
Cyfansoddwyd y gân wreiddiol gan John Barry. Dyma oedd ei chweched tro'n cyfansoddi cân ar gyfer ffilmiau Bond. Ers hynny, mae'r gân wedi cael ei haddasu gan y rapiwr Kanye West yn ei sengl Diamonds from Sierra Leone. Cafodd sampl o'r gân ei defnyddio gan y grŵp hip hop Dead Prez yn eu cân Psychology ar albwm Let's Get Free. Yn fwy diweddar, canwyd y gân gan y band roc The Artic Monkeys yng Ngŵyl Glastonbury yn 2007. Eto yn 2007, cafodd rhan o'r gân ei defnyddio gan Yung Berg ar ei sengl Sexy Lady.