![]() | |
Enghraifft o: | math o endid cemegol ![]() |
---|---|
Math | benzodiazepine drug, alkaloid ![]() |
Màs | 284.072 uned Dalton ![]() |
Fformiwla gemegol | C₁₆h₁₃cln₂o ![]() |
Clefydau i'w trin | Anhwylder panig, anhwylder gorbryder, cyflwr epileptig, sbastigedd, anhwylder seicotig, anhunedd, camddefnyddio sylweddau, epilepsi, gorbryder, sleep-wake disorder ![]() |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america d ![]() |
Rhan o | diazepam binding ![]() |
Gwneuthurwr | Pfizer ![]() |
![]() |
Mae diazepam yn gyffur sy'n perthyn i deulu benzodiazepin[1]. Mae ganddi hanner oes cymharol hir. Fe'i defnyddir yn bennaf i drin anhwylder gorbryder, mathau penodol o epilepsi, a phroblemau cysgu. Yn debyg i bob cyffur yn y teulu benzodiazepin, mae yna berygl o fagu dibyniaeth o'i ddefnyddio'n rheolaidd. O herwydd hyn, defnyddir y cyffur i drin achosion acíwt gan amlaf. Ni ddylid ei gymryd am fwy nag ychydig wythnosau. Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae diazepam yn gyffur hanfodol.
Mae diazepam yn cael ei farchnata o dan nifer o enwau: ei enw masnach gwreiddiol oedd Valium. Yn ogystal â'i defnydd clinigol fe'i defnyddir yn hamddenol hefyd, er mwyn creu effaith o lonyddwch. Yng ngwledydd Prydain mae diazepam ar gael trwy bresgripsiwn yn unig; mae defnydd hamddenol o'r cyffur yn anghyfreithiol.
Datblygwyd diazepam yn wreiddiol gan Dr Leo Sternbach o gwmni cemegol Hoffman-La Roche yn labordy'r cwmni yn Nutley, New Jersey [2]. Trwyddedwyd y cyffur at ddefnydd clinigol ym 1963.
Defnyddir diazepam yn bennaf i drin anhwylder gorbryder, anhunedd (anawsterau cysgu; insomnia) ac ymosodiadau panig. Fe'i defnyddir i drin symptomau ymatal rhag alcohol wrth drin pobl sy'n ddibynnol ar alcohol. Fe'i defnyddir hefyd fel rhagfoddion cyn rhai gweithdrefnau meddygol megis endosgopi[3].
Mae diazepam yn cael ei defnyddio i drin cyflwr status epilepticus, cyflwr lle mae ffit epileptig yn para yn hir iawn neu fod claf yn cael nifer o ffitiau yn olynol. Mae'n cael ei weini, fel arfer trwy bigiad neu drwy diwb reidol[4][5]
Mae'r sgil effeithiau mwyaf cyffredin yn cynnwys syrthni, atacsia, a gwendid yn y cyhyrau [1].
Gall diazepam achosi arafu yn y gallu i adweithio, penysgafnder ac ymddygiad ymosodol. Dylai claf sydd yn dioddef o unrhyw un o'r effeithiau hyn osgoi gyrru a dylai claf sy'n newydd i'r moddion osgoi gyrru cyn gwybod sut effaith bydd y cyffur yn ei gael arno neu arni [1].
Gall y cyffur achosi effeithiau andwyol ar y baban yn y groth a thrafferthion wrth esgor. Mae modd trosglwyddo'r cyffur i faban trwy laeth y fron [1]. Oherwydd y peryglon hyn awgrymir y dylai merched o oedran cenhedlu ddefnyddio offer atal cenhedlu wrth ddefnyddio'r feddyginiaeth. Dylai merched sy'n cynllunio i gael plant drafod eu cyfundrefn meddyginiaeth gyda'u meddyg cyn beichiogi. Ni ddylai merched sy'n cymryd diazepam sy'n canfod eu bod yn feichiog roi'r gorau i'r feddyginiaeth yn ddisymwth, ond dylai'r darpar fam gysylltu â'i meddyg fel mater o frys.
Dylid osgoi alcohol wrth ddefnyddio'r moddion gan fod alcohol yn cynyddu effeithiau tawelydd y cyffur [1].
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |