Dicloflexec | |
Enghraifft o'r canlynol | math o endid cemegol |
---|---|
Math | cyfansoddyn cemegol |
Màs | 295.017 uned Dalton |
Fformiwla gemegol | C₁₄h₁₁cl₂no₂ |
Enw WHO | Diclofenac |
Clefydau i'w trin | Poen, crydcymalau gwynegol, osteoarthritis, sbondylitis asiol, crydcymalau gwynegol ieuengaidd, caleden, llid, photophobia, actinic keratosis, osteoarthritis susceptibility 1, cur pen eithafol, fibromyalgia, cymalwst, gowt, migraine without aura, rotator cuff tear, gwynegon, plantar fasciitis, medial epicondylitis, niwropatheg amgantol |
Beichiogrwydd | Categori beichiogrwydd awstralia c, categori beichiogrwydd unol daleithiau america c |
Yn cynnwys | nitrogen, ocsigen, carbon, clorin |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae diclofenac yn gyffur sy'n perthyn i'r grŵp cyffur gwrthlid ansteroidol (NSAID), mae'n gyffur poen leddfol sy'n cael ei ddefnyddio i drin gwahanol fath o boenau[1] megys spondylitis ymasiol, necrosis aseptig, poen cefn, ysgwydd wedi'i rewi, y meigryn, ac ati[2].[3] Y fformiwla cemegol ar gyfer y cyffur hwn yw C₁₄H₁₁Cl₂NO₂.
O'i ddefnyddio mewn dos unigol mae gan diclofenac priodweddau poen leddfol sy'n debyg iawn i briodweddau paracetamol. Mae'n cael ei ddefnyddio i leddfu cur pen ysgafn i gymedrol, i leddfu poenau'n gysylltiedig â'r misglwyf a phoen sy'n gysylltiedig â chlefydau llidiol fel rhiwmatig a'r gwynegon. Mae hefyd yn cael ei ragnodi i drin ymosodiadau acíwt o'r gymalwst (gowt). Mae'n cael ei ddefnyddio hefyd ar ffurf diferion i'r llygaid er mwyn trin llid ar y llygaid.
Mae'n cael ei ragnodi weithiau mewn paratoad cyfunol gyda misoprostol. Mae misoprostol yn cael ei ddefnyddio i atal wlserau dwodenwm, sef un o sgil effeithiau diclofenac.
Yn y DU mae diclofenac ar gael trwy bresgripsiwn yn unig. Mae'n cael ei ddosbarthu o dan yr enwau brand Defenac, Dicloflex, Diclomax SR, Dyloject (darpariaeth ar gyfer pigiad), Motifene, Rhumalgan a Volterol[4]
Gall y cyffur achosi problemau'r galon i'r baban yn y groth ac achosi problemau wrth esgor o'i ddefnyddio yn ystod y tri mis olaf o feichiogrwydd. Mae ychydig bach o'r cyffur yn gallu treiddio i laeth y bron ond mae effeithiau andwyol i'r baban sy'n sugno yn annhebygol.
Gan fod y cyffur yn gallu achosi pendro, madrondod a dryswch dylid ymatal rhag gyrru / gwneud gwaith peryglus am ychydig ddyddiau hyd wybod effaith y cyffur arnoch.
Dylid ymatal rhag diodydd cadarn wrth ddefnyddio diclofenac oherwydd y perygl cynyddol o gael gwaedlif yn yr ystumog
Fe'i rhoddir fel triniaeth ar gyfer gwahanol gyflyrau meddygol, gan gynnwys:
Caiff cyffuriau eu hadnabod gan amryw o enwau gwahanol yn aml. Enw cemegol y cyffur hen yw Dicloffenac, ond rhoddir enwau masnachol a brand iddo hefyd, gan gynnwys;
Cyngor meddygol |
Sgrifennir tudalennau Wicipedia ar bwnc iechyd er mwyn rhoi gwybodaeth sylfaenol, ond allen nhw ddim rhoi'r manylion sydd gan arbenigwyr i chi. Mae llawer o bobl yn cyfrannu gwybodaeth i Wicipedia. Er bod y mwyafrif ohonynt yn ceisio osgoi gwallau, nid ydynt i gyd yn arbenigwyr ac felly mae'n bosib bod peth o'r wybodaeth a gynhwysir ar y ddalen hon yn anghyflawn neu'n anghywir. Am wybodaeth lawn neu driniaeth ar gyfer afiechyd, cysylltwch â'ch meddyg neu ag arbenigwr cymwys arall! |