Math | tref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Ardal De Swydd Rydychen |
Poblogaeth | 32,186 |
Gefeilldref/i | Meylan, Planegg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Rydychen (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 8.48 km² |
Yn ffinio gyda | East Hagbourne, South Moreton, Long Wittenham, Appleford-on-Thames, Harwell, West Hagbourne, Sutton Courtenay |
Cyfesurynnau | 51.6061°N 1.2411°W |
Cod SYG | E04012477, E04008122 |
Cod OS | SU525900 |
Cod post | OX11 |
Tref yn Nyffryn Tafwys, yn Swydd Rydychen, De-ddwyrain Lloegr, ydy Didcot.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan De Swydd Rydychen. Saif y dref tua 10 milltir i'r de o ddinas Rhydychen.
Mae Caerdydd 134.6 km i ffwrdd o Didcot ac mae Llundain yn 79.4 km. Y ddinas agosaf ydy Rhydychen sy'n 17 km i ffwrdd.
Mae Didcot yn dyddio o Oes yr Haearn. Codwyd bryngaer ar y grib yn y dref, efo'r wern o'i chwmpas. Ceisiodd y Rhufeinwyr sychu'r wern gan gloddio ffos trwy ardal i'r gogledd o'r dref. Yn y 1200au y mae'r tro cyntaf yr ymddangosir Didcot mewn cofnodion hanesyddol, fel Dudcott. Cadwodd y dref boblogaeth o tua 100 o bobl dros ganrifoedd, tra bod rhai bentrefi cyfagos, sydd yn fychain o'u cymharu â Didcot modern, yn fwy.
Adeiladwyd rheilffordd rhwng Llundain a Bryste trwy Didcot yn 1839, ac agorwyd yr orsaf yn 1844. Erbyn hyn, mae'r brif reilffordd sy'n rhedeg trwy Didcot yn gwasanaethu De Cymru hefyd, ac yma mae llinell arall, i Rydychen a Chanolbarth Lloegr, yn gwahanu ohono. Elwir yr orsaf yn Didcot Parkway erbyn hyn.
Roedd y dref yn Berkshire, nes i ffiniau'r swyddi gael eu hail-drefnu yn 1974.
Dinas
Rhydychen
Trefi
Abingdon-on-Thames ·
Banbury ·
Bicester ·
Burford ·
Carterton ·
Charlbury ·
Chipping Norton ·
Didcot ·
Faringdon ·
Henley-on-Thames ·
Thame ·
Wallingford ·
Wantage ·
Watlington ·
Witney ·
Woodstock