Roedd y distain (Saesneg: seneschal o'r gair Ffrangeg sénéchal) yn swyddog uchel yng ngwasanaeth tywysogion ac uchelwyr pwysig yn ystod yr Oesoedd Canol mewn rhannau o Ewrop. Yn systemau gweinyddol Ffrainc yn y cyfnod hwnnw, defnyddiwyd y term sénéchal ar gyfer swyddog brenhinol a oedd yn gyfrifol am gyfiawnder ac am reoli gweinyddiaeth yn y taleithiau deheuol; roedd hyn yn cyfateb i'r teitl bailli yng ngogledd y wlad.
Swydd symlaf y distain oedd i arolygu gwleddau a seremonïau cartref. Weithiau caent gyfrifoldebau eraill megis cosbedigaeth a rheolaeth milwrol uwch.
Yng Nghymru datblygodd swyddogaeth y distain yn nheyrnas Gwynedd rhwng y 12fed a'r 13g. Nid oedd yn cyfateb yn union i swyddogaeth y sénéchal, er yn gyffelyb, ond yn seiliedig ar swyddau gweinyddol a chyfreithiol Cymreig.